Arestio tad bachgen 14 oed sydd wedi ei gyhuddo o ladd pedwar person yn nhalaith Georgia
Mae tad bachgen 14 oed sydd wedi ei gyhuddo o ladd pedwar person yn nhalaith Georgia UDA wedi ei arestio.
Mae Colin Gray, 54, yn wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad anwirfoddol, dau gyhuddiad o lofruddiaeth ail radd ac wyth cyhuddiad o greulondeb i blant.
Dywedodd Cyfarwyddwr Swyddfa Ymchwiliadau Georgia (GBI), Chris Hosey, fod y cyhuddiadau yn ymwneud â gweithredoedd ei fab a "chaniatáu iddo gael arf yn ei feddiant".
Mae’r mab, Colt Gray, wedi’i gyhuddo o ladd dau athro a dau fyfyriwr yn y saethu ddydd Mercher yn ysgol uwchradd Apalachee yn Winder, ger Atlanta.
Bydd yn ymddangos o flaen llys ddydd Gwener wedi'i gyhuddo - fel oedolyn - o bedwar cyhuddiad o lofruddiaeth.
Dywedodd yr awdurdodau wrth wasanaeth newyddion CBS eu bod nhw’n ymchwilio i weld a brynodd Colin Gray yr arf AR fel anrheg i’w fab ym mis Rhagfyr 2023.
Llun: Wochit.