Newyddion S4C

Rhybudd melyn am ragor o law yn y de a'r canolbarth

Tweed

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi annog pobl i baratoi at ragor o dywydd garw wrth i rybudd melyn am law barhau mewn grym ddydd Gwener. 

Bydd y rhybudd mewn grym hyd at 23.59 nos Wener, gan effeithio ar nifer o siroedd yn y de a’r canolbarth yn bennaf. 

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyn arwain at lifogydd ac amseroedd teithio hirach, gyda’r tywydd gwlypach yn fwyaf tebygol o daro teithwyr ar hyd ffordd yr M4. 

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gallai’r rhybudd tywydd gael ei ymestyn i gynnwys y penwythnos. 

Mae yna bosibilrwydd y gallai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd ac fe fydd yr ardaloedd a gafodd ei daro gan law trwm ddydd Iau'r mwyaf tebygol o ddioddef yn yr achos yma, medden nhw. 

Mae disgwyl i’r glaw parhau yn drwm trwy gydol y dydd, gyda disgwyl hyd at 60mm o law yn rhai ardaloedd. 

Fe allai stormydd, gan gynnwys taranau, daro i’r gogledd o’r rhybudd yn ogystal. 

Dywedodd Aidan McGivern o’r Swyddfa Dywydd: “Bydd y glaw a welwyd ar hyd y de a’r de ddwyrain ddydd Iau yn parhau ddydd Gwener ac yn ystod y penwythnos. 

“Fe fydd ‘na law drymach ar adegau, ac yna law ysgafnach ar adegau eraill,” meddai. 

Siroedd

Bydd y rhybudd mewn grym yn y siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.