Newyddion S4C

'Cadw'r Tafod Glas allan o Gymru': Galw ar ffermwyr i fod yn wyliadwrus wedi achosion o'r firws yn Lloegr

Tafod Glas

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi rhybuddio ffermwyr i “gadw golwg” am symptomau o’r Tafod Glas yn eu da byw yn dilyn cadarnhad o achosion newydd o’r feirws yn Lloegr. 

Nid yw’r clefyd erioed wedi cael ei gofnodi yng Nghymru, ond mae Richard Irvine wedi annog ffermwyr i fod yn “wyliadwrus” o’r “sefyllfa newidiol.” 

Mae’r Tafod Glas yn glefyd sy’n cael ei drosglwyddo gan bryfed gwybed sy’n cnoi (‘biting midges’), gan effeithio ar wartheg, geifr, defaid a cheirw yn bennaf, yn ogystal â chamelod fel alpacas a lamas. 

Fe allai symptomau o’r clefyd - all droi tafod anifeiliaid yn las - amrywio, gyda rhai anifeiliaid yn dangos ychydig iawn o arwyddion eu bod wedi’i heintio. 

Ond fe allai’r clefyd achosi problemau o ran cynhyrchu llaeth neu atgenhedlu, ac yn yr achosion mwyaf difrifol gall arwain at farwolaeth. 

Nid yw’r Tafod Glas yn effeithio ar bobl na ddiogelwch bwyd. 

Dywedodd Mr Irvine: “Gan fod y Tafod Glas wedi'i gadarnhau'n ddiweddar yn Lloegr, byddwn yn annog pob ceidwad i weithredu nawr i ddiogelu eu buchesi a'u diadellau a helpu i gadw'r clefyd allan o Gymru. 

“Dylent hefyd fod yn ymwybodol o sut i adnabod y Tafod Glas a rhoi gwybod am unrhyw achosion a amheuir ar unwaith.

“Nid yw Cymru erioed wedi cael achos o'r Tafod Glas, ond gyda'r sefyllfa newidiol, rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac yn barod ar gyfer y Tafod Glas.”

Image
Tafod Glas
Fe allai'r Tafod Glas achosi wlserau ar y deintgig, (Llun o ddafad)

'Gwyliadwrus'

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, gall ffermwyr helpu i atal y clefyd drwy: 

  • sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol gyda statws iechyd dibynadwy
  • cadw at fesurau bioddiogelwch llym ar eu safleoedd
  • parhau i fod yn wyliadwrus ac adrodd symptomau yn eu da byw

Dylai ffermwyr hefyd fod yn wyliadwrus os ydynt yn ystyried mewnforio anifeiliaid i’r wlad. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i “ymgysylltu'n agos â'r sectorau milfeddygol a da byw” ac yn ystyried rôl brechu yn y dyfodol yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad hynny yn dilyn penderfyniad DEFRA i ganiatáu'r defnydd brys o frechlyn BTV-3 anawdurdodedig, o dan drwydded, mewn ardaloedd risg uchel yn Lloegr, ychwanegodd. 

Dylai ffermwyr sy’n amau bod eu da byw yn dioddef a’r Tafod Glas cysylltu â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar 0300 303 8268 ar unwaith, ac mi fydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.

Lluniau: The Pirbright Institute/Llywodraeth y DU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.