Newyddion S4C

Lucy Letby yn bwriadu gwneud cais arall am apêl gyda thîm cyfreithiol newydd

06/09/2024
Lucy letby

Mae Lucy Letby a gafwyd yn euog y llynedd o lofruddio nifer o fabanod yn bwriadu gwneud cais arall am apêl gyda thîm cyfreithiol newydd, meddai ei bargyfreithiwr.

Fe wnaeth llys gael y cyn nyrs yn euog o lofruddio saith o fabanod ac o geisio llofruddio saith arall ym mis Awst 2023.

Roedd yn gweithio ar uned newydd enedigol Ysbyty Countess of Chester rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016 pan ddigwyddodd y llofruddiaethau.

Roedd pump o'r babanod yn dod o Gymru.

Mae Letby wedi ei dedfrydu i 15 oes yn y carchar – sy’n golygu mai hi’r yw’r bedwaredd fenyw erioed yn hanes y DU i gael gwybod na fydd byth yn cael ei rhyddhau o’r carchar.

Collodd Letby ei chais yn y Llys Apêl i herio ei dedfrydau ym mis Mai eleni.

Ond dywedodd ei bargyfreithiwr newydd, Mark McDonald, wrth Radio 4 ei fod yn bwriadu gwneud cais i’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) i achos Letby gael ei anfon yn ôl i’r Llys Apêl.

“Ro’n i’n gwybod bron o’r dechrau, yn dilyn yr achos yma, fod yna achos cryf ei bod hi’n ddieuog,” meddai wrth y rhaglen.

“Y ffaith yw bod rheithgorau yn gallu bod yn anghywir. Ac mae hanes wedi dangos y gall y Llys Apêl fod yn anghyiwr hefyd.”

'Heb os'

Mae disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus i’r digwyddiadau yn Ysbyty Countess of Chester Letby ddechrau ar Fedi 10 yn Lerpwl.

Mewn cyfweliad arbennig gyda Newyddion S4C yr wythnos diwethaf dywedodd prif dyst yr erlyniad yn erbyn Lucy Letby, y cyn-ymgynghorydd paediatrig Dr Dewi Evans, ei fod yn sicr mai Lucy Letby lofruddiodd y babanod.

Roedd yr holl sylw diweddar yn achosi loes pellach i rieni'r plant, meddai.

"Heb os hi oedd yn gyfrifol am lofruddio y saith baban ac heb os hi oedd yn gyfrifol am ymdrechu i drio lladd nifer o fabanod eraill a mae'n wyrth a dweud y gwir bod cwpwl o nhw dal yn fyw," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.