Newyddion S4C

Oedi cyn agor canolfan iechyd a hamdden newydd ger Llanelli o achos tywydd garw

05/09/2024
Pentre Awel

Fe fydd y broses o agor rhan gyntaf canolfan iechyd, hamdden a gwyddorau bywyd gwerth £200m ar gyrion Llanelli yn cael ei ohirio am dri mis.

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin, sy'n arwain ac yn ariannu cynllun Pentre Awel yn rhannol mai tywydd gwael oedd ar fai am yr oedi.

Bydd agor Pentre Awel yn cynnwys pedwar cam, ac mae’n un o naw prosiect bargen ddinesig ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe. 

Bydd rhan gyntaf y cynllun yn cynnwys canolfan hamdden newydd yn Llanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod y Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at agoriad graddol Pentre Awel i’r cyhoedd, a fydd yn dechrau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf ac yn dechrau gyda’i gyfleusterau hamdden gan gynnwys pwll hydrotherapi, caffi ac academi iechyd a lles Prifysgol Abertawe.

“Oherwydd tywydd garw digynsail, mae’r gwaith adeiladu ar y safle wedi’i ohirio am dri mis.

“Mae’r oedi hwn yn fach iawn ar gyfer prosiect adeiladu o’r maint a’r raddfa hon ac rydym ar y trywydd iawn i drosglwyddo’r safle o Bouygues UK i’r cyngor sir ddechrau’r flwyddyn nesaf.

“Ar ôl i’r adeilad gael ei drosglwyddo, byddwn yn dodrefnu parth un gan ragweld y bydd yn agor yn y gwanwyn.

“Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei chyfleu yn y cyfnod cyn trosglwyddo’r adeilad a’r agoriad swyddogol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.