Newyddion S4C

'Profiad bythgofiadwy': Set Pobol y Cwm ar agor i'r cyhoedd ym mis Hydref

06/09/2024
Pobol y Cwm

Bydd set Pobol y Cwm ar agor i'r cyhoedd ym mis Hydref wrth i'r gyfres deledu boblogaidd ddathlu ei phenblwydd yn 50 oed. 

Bydd y cyhoedd yn cael y cyfle i ymweld â phentref Cwmderi, sy'n cael ei ffilmio yng nghanolfan BBC Studios Cymru ym Mae Caerdydd. 

Bydd modd i'r cyhoedd ymweld â'r setiau yn ogystal â'r brif stryd adnabyddus yng Nghwmderi, a hynny drwy archebu tocyn

Mae Pobol y Cwm wedi cael ei darlledu ar S4C ers 1982, a dyma opera sebon deledu hynaf y BBC. 

'Achlysur pwysig'

Dywedodd Cynhyrchydd y Gyfres, Dafydd Llewelyn: "Mae cymaint o bobl wedi bod yn holi am y teithiau hyn, ac rydym yn falch iawn o allu ail-agor ein drysau ar achlysur mor bwysig yn hanes y gyfres. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yma."

Bydd rhai o actorion y gyfres, gan gynnwys Jonathan Nefydd (Colin), Sera Cracroft (Eileen) a Dyfan Rees (Iolo) yn arwain y teithiau, gyda chyfle i’r cyhoedd holi cwestiynau wrth grwydro o amgylch y setiau.

Mae rhai o actorion amlycaf Cymru wedi dechrau eu gyrfa drwy serennu yn y gyfres, o Ioan Gruffudd i Iwan Rheon i Alexandra Roach. 

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C: "Dwi’n sicr fydd ein cynulleidfa yn bachu ar y cyfle unigryw i gamu ar Stryd Fawr fwyaf eiconig Cymru. Fydd hi’n brofiad bythgofiadwy ac yn ffordd wych o ddathlu pen-blwydd arbennig Pobol y Cwm yn 50."

Ychwanegodd Sian Gwynedd, Pennaeth Diwylliant a Phartneriaethau, BBC Cymru: "Mae gan y gyfres le pwysig iawn yng nghalonnau gwylwyr ar draws Cymru ac mae hyn yn gyfle unigryw iddyn nhw fod yn rhan o’r dathliadau ac i gwrdd a rhai o’r actorion."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.