Jeremy Kyle yn amddiffyn ei ddull o gyflwyno mewn cwest i farwolaeth dyn oedd ar ei raglen
Mae Jeremy Kyle wedi amddiffyn ei ddull o gyflwyno gan ddweud ei fod yn “uniongyrchol” ond yn “onest” wedi i ddyn farw ar ôl ymddangos ar ei gyfres deledu.
Bu farw Steve Dymond o Portsmouth, Hampshire, ym mis Mai 2019. Y gred yw ei fod wedilladd ei hun saith diwrnod ar ôl iddo ffilmio ar gyfer rhaglen The Jeremy Kyle Show.
Wrth siarad fel rhan o gwest i’w farwolaeth yn Llys Crwner Winchester ddydd Iau, fe wnaeth Mr Kyle wadu annog ei gynulleidfa ar y pryd i wrthwynebu Mr Dymond, 63 oed, gan ddweud ei fod wedi “gofyn iddyn nhw i roi cymeradwyaeth iddo ef.”
Roedd Mr Dymond wedi ymddangos ar y gyfres gyda’i bartner, Jane Callaghan, a hithau wedi ei gyhuddo o fod yn anffyddlon iddi hi.
Roedd Mr Dymond wedi cytuno i wneud prawf celwydd i brofi nad oedd yn anffyddlon iddi, ond fe fethodd y prawf hwnnw.
Fe gafodd sawl clip o’r bennod eu dangos yn y llys ddydd Iau, gan gynnwys un oedd yn dangos y cyflwynydd Jeremy Kyle yn dweud wrth Mr Dymond i “fod yn ddyn” ac i “ddweud y gwir.”
Roedd Mr Kyle hefyd wedi gofyn i'r gynulleidfa “A oes gan unrhyw un raw?” tra oedd Mr Dymond yn ceisio esbonio ei resymau dros anfon negeseuon at fenyw arall.
Gofynnodd y cwnsler Rachel Spearing wrth Mr Kyle a oedd o’r gred ei fod wedi “bychanu” Mr Dymond.
“Na, dwi ddim,” meddai Mr Kyle. “Fe wnes i’r hyn roeddwn i bob amser yn ei wneud… roedd e’n rhan arferol o’r rhaglen.”
Dywedodd hefyd ei fod wedi creu “persona” ar gyfer y rhaglen ac nad oedd wedi’i hyfforddi er mwyn delio gyda gwestion emosiynol.
Roedd Mr Dymond wedi cysylltu ag ITV rhwng 40 a 50 o weithiau er mwyn bod yn rhan o’r gyfres, clywodd y cwest yn flaenorol.
Fe gafodd Mr Dymond ddiagnosis o iselder yn 1995, ac roedd wedi cymryd gorddos ar bedwar achlysur gwahanol – gan gynnwys ym mis Ionawr 1995, ddwywaith ym mis Rhagfyr 2002 ac ym mis Ebrill 2005.
Mae’r llys hefyd wedi clywed ei fod wedi ceisio anafu ei hun ym mis Rhagfyr 2002.
Llun: Jordan Pettitt/PA Wire