Gwasanaeth Tân De Cymru: ‘Morâl yn is nag erioed, a dim arwydd o newid’
Yn ôl diffoddwyr tân Gwasanaeth Tân De Cymru mae morâl o fewn y gwasanaeth yn "is nag erioed" a does dim camau yn cael ei gwneud i wella’r diwylliant yno.
Cafodd adolygiad allanol ei gynnal ym mis Ionawr i Wasanaeth Tân De Cymru yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol a cham-drin menywod gan ddiffoddwyr tân.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod "diffygion difrifol" yn y gwasanaeth, gan gynnwys cyfathrebu, systemau, polisïau a gweithdrefnau gwael; arweiniad annigonol gan arweinwyr a rheolwyr; a diffyg tryloywder mewn gweithdrefnau recriwtio a dyrchafu.
Ond mae un diffoddwr tân yn teimlo nad yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gweithredu ar ganfyddiadau’r adolygiad damniol.
Mewn cyfweliad â ITV Cymru, dywedodd ‘Gareth’, nid ei enw iawn, “nad oes dim wedi newid ac mae union yr un pethau yn cael eu dweud.”
Mae ‘Gareth’ yn pryderu bod risg i ddiogelwch y cyhoedd os nad yw’r problemau o fewn y gwasanaeth yn cael eu datrys.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei bod wedi bod yn gyfnod “anodd ac ansefydlog i’n staff."
Dywedodd 'Gareth' pan ddaeth materion i'r amlwg gyntaf am ymddygiad rhai o staff Gwasanaeth Tân De Cymru, ei fod yn falch nad oedd ar ei ben ei hun yn meddwl bod problemau.
Roedd ‘Gareth’ wedi gweld pobl yn gwneud "jôcs hiliol, sylwadau hiliol am groen pobl, a chrefydd pobl.
“Fe wnaeth un person ddod allan fel aelod o’r gymuned LHDTC+, a chafodd llun o’i wyneb ei roi ar addurn 'fairy' a’i osod ar frig coeden Nadolig.
“Os oeddech yn rhan o'r gymuned LHDTC+, sut oedd hynny'n gwneud i chi deimlo, mewn ofn nad ydych chi’n cael eich derbyn gan aelodau’r gwasanaeth tân.”
‘Gobaith am newid’
Roedd Gareth yn obeithiol y byddai newid “go iawn” yn dilyn cyhoeddiad am adolygiad i ddiwylliant y gwasanaeth.
“Roeddwn ni’n hynod gyffrous oherwydd roedd yn obaith am newid. O’n i yn credu y byddai wedi arwain at rywbeth cynhyrchiol a hanfodol i helpu ni’.”
Yn dilyn yr adolygiad dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn hyderus y byddai'r gwasanaeth yn "datblygu gyda diwylliant mwy cadarnhaol a chynhwysol.”
Fodd bynnag, fwy nag wyth mis yn ddiweddarach, dywedodd staff rheng flaen stori wahanol iawn wrth ITV Cymru.
Ychwanegodd 'Gareth': "Mae'n ymddangos nad oes dim wedi symud ymlaen o gwbl."
Dywedodd ei fod yn chwilio am ffyrdd o adael y gwasanaeth tân. “Mae morâl yn isel iawn, dydw i ddim eisiau gweithio yno bellach.
“Does dim byd yn digwydd, does dim byd yn newid. Mae’r un hen bethau yn yr orsaf yn dal i gael eu dweud, mae pobl yn dal i gael manteision oherwydd pobl maen nhw’n eu hadnabod ac rydw i’n ôl i’r pwynt lle roedden ni flwyddyn yn ôl.'
Stuart Millington
Mae rhai staff yn pwyntio bys at benodiad pennaeth tân dros dro dadleuol am y diffyg cynnydd o fewn y gwasanaeth.
Penodwyd Stuart Millington ar ôl yr adolygiad, ond ddyddiau'n ddiweddarach datgelodd ITV ei fod yn wynebu cwestiynau am ei ymddygiad.
Dywedodd cyn-arweinydd Undeb y Brigadau Tân yng Nghymru, Cerith Griffiths: “Cyn gynted y dywedwyd wrthyf ei fod wedi cael ei benodi’n Brif Swyddog Tân dros dro, cefais fy synnu’n fawr.”
Daeth i'r amlwg fod Mr Millington yn wynebu tribiwnlys cyflogaeth, wedi ei gyhuddo o fwlio ac aflonyddu aelod o staff tra'r oedd yn Brif Swyddog Tân Cynorthwyol yng Ngwasanaeth Gogledd Cymru.
Dywedodd Mr Griffiths: “Ni wnaeth hynny ddim byd o gwbl i dawelu meddwl staff y bydd pethau yn mynd i newid.”
Ers hynny mae llys cyflogaeth wedi dileu'r achos yn erbyn Mr Millington ar ôl dadlau bod yr hawlydd wedi cyflwyno ei gŵyn y tu allan i'r terfyn amser cyfreithiol.
Fe wnaeth Mr Millington wadu'r holl honiadau ac nid yw'n wynebu unrhyw gamau pellach.
Dywedodd Cerith Griffith: "Pan ddaeth yr adolygiad allan, roedd hynny'n rhoi gobaith i bobl. Fe allech chi deimlo bod gobaith nawr bod pethau o'r diwedd yn mynd i newid ac yn anffodus, hyd yma, nid yw staff yn teimlo bod hynny wedi digwydd.
"Mae morâl, yn anffodus, ar ei isaf allai fod."
Dywedodd y gwasanaeth wrth ITV Cymru y bydd "yn parhau i wneud gwelliannau i ddiwylliant y Gwasanaeth gyda recriwtio Prif Swyddog Tân newydd sy'n ymuno â ni yn ddiweddarach eleni".
Ychwanegodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae trawsnewid a newid wedi bod yn flaenoriaethau allweddol i’r gwasanaeth.
“Ymhlith pethau eraill, rydym wedi recriwtio Cyfarwyddwr Newid Strategol a Thrawsnewid i arwain ein rhaglen Camu Ymlaen, wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau mewnol i ymgysylltu â staff a rhoi cyfle iddynt ddweud eu dweud ar faterion gan gynnwys diwylliant, ac wedi bod yn gweithio ar chwalu ymddygiad amhriodol ar draws y gwasanaeth."
Mae ‘Gareth’ eisiau gweld newid yn fuan: “Mae angen sgwrs ehangach am sut rydyn ni wedi gadael i bethau gyrraedd y cam hwn, a sut ydyn ni’n mynd ati i ddysgu o gamgymeriadau’r gorffennol.