Ymchwiliad i farwolaeth ffermwr 67 oed yn Llanycil ger Y Bala
05/09/2024
Ymchwiliad i farwolaeth ffermwr 67 oed yn Llanycil ger Y Bala
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i farwolaeth dyn 67 oed yn ardal y Bala.
Cafodd yr heddlu eu galw i fferm yn yr ardal am 20:50 ddydd Mercher.
Yn ôl adroddiadau lleol, enw'r dyn a fu farw oedd Islwyn Owen, ac roedd yn byw ym mhentref Llanycil.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Andy Gibson: "Rydym ni'n gweithio ar y cyd gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) er mwyn darganfod amgylchiadau’r digwyddiad, ac rydym ni’n trin y farwolaeth fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.
"Mae’r Crwner lleol wedi cael gwybod."
Mae'r llu yn gofyn i bobl barchu preifatrwydd y teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.