Bellamy wrth y llyw: Ymgyrch a rheolwr newydd i Gymru
Bellamy wrth y llyw: Ymgyrch a rheolwr newydd i Gymru
Bydd Craig Bellamy wrth y llyw fel rheolwr Cymru am y tro cyntaf nos Wener wrth i Gymru herio Twrci yng ngêm agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd.
Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd, cyn teithio i Nikšić i herio Montenegro ar 9 Medi.
Cafodd Bellamy ei benodi yn rheolwr Cymru ym mis Gorffennaf, gan olynu Rob Page.
Fe chwaraeodd 78 o weithiau dros ei wlad, ond ni lwyddodd i gyrraedd prif bencampwriaeth gyda Chymru, ac mae wedi gosod y targed o arwain Cymru i Gwpan y Byd 2026.
Wrth siarad cyn ei gêm gyntaf fel rheolwr, dywedodd Bellamy: "Dwi wir ddim yn meddwl bod modd i chi baratoi eich hun am y foment yna. Dwi wedi ceisio paratoi yr hyfforddwyr o flaen llaw o ran yr emosiwn."
Herio
Roedd Twrci yn rhan o grŵp rhagbrofol Cymru ar gyfer Euro 2024. Colli yn Nhwrci a gêm gyfartal yng Nghaerdydd oedd hanes y gemau hynny.
Mae Bellamy wedi cynnwys y golwr o Leeds Karl Darlow yn y garfan am y tro cyntaf, ac Owen Beck, amddiffynnwr Lerpwl sydd ar fenthyg i Blackburn Rovers.
Mae Ollie Cooper, Mark Harris a Sorba Thomas hefyd wedi cael eu galw yn ôl i'r garfan.
Mae David Brooks, Wes Burns a Nathan Broadhead yn methu allan oherwydd anafiadau.
Bydd Cymru yn teithio i Montenegro wedi'r gêm nos Wener, gyda'r ddwy wlad wedi herio ei gilydd deirgwaith yn unig.
Colli mewn gêm gyfeillgar yn 2009 oedd y tro cyntaf, a cholli ac ennill wnaeth Cymru yn erbyn Montenegro yng ngemau rhagbrofol Euro 2012.