Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Hwlffordd yn croesawu'r Seintiau tra bod y Cofis ymweld â Phen-y-bont

Sgorio 07/09/2024
Caernarfon Town vs Crusaders

Wedi pum gêm gynghrair mae Pen-y-bont, Met Caerdydd a Hwlffordd yn parhau’n gyfartal ar bwyntiau ar y brig a heb golli gêm y tymor hwn.

Ond gyda thair gêm wrth gefn bydd y pencampwyr, Y Seintiau Newydd yn anelu i gau’r bwlch ar y triawd o’r de dros y penwythnos.

Tua’r gwaelod mae’n addo i fod yn gêm gystadleuol ar Goedlan y Parc rhwng Aberystwyth a’r Fflint.

Cei Connah (5ed) v Y Barri (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl dechrau’n araf gyda dim ond un pwynt o’u dwy gêm agoriadol mae Cei Connah wedi cychwyn tanio ers i Billy Paynter gymryd yr awenau, gan ennill eu dwy gêm gynghrair ers hynny.

Mae’r Barri wedi codi o’r gwaelodion hefyd ar ôl brwydro ‘nôl i guro’r Fflint brynhawn Sadwrn i sicrhau eu triphwynt cyntaf y tymor hwn, a dim ond eu hail fuddugoliaeth yn y gynghrair ers mis Ionawr.

Dyw’r Barri m’ond wedi ennill un o’u 11 gêm ddiwethaf oddi cartref ym mhob cystadleuaeth (Aber 2-4 Barri), ac fe gollon nhw o 7-0 yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah ar Gae y Castell ym mis Rhagfyr 2023.

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ͏❌➖✅✅

Y Barri: ➖➖❌❌✅

Hwlffordd (3ydd) v Y Seintiau Newydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Seintiau Newydd wedi creu hanes eleni drwy gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed.

Bydd y clwb o Groesoswallt yn herio Fiorentina, Djurgarden, Astana, Shamrock Rovers, Panathinaikos a Celje yng Nghyngres UEFA y tymor hwn.

Ond tra bo’r Seintiau wedi bod yn brysur gyda’u gemau rhagbrofol yn Ewrop, mae eu gemau cynghrair wedi cael eu gohirio, ac felly mae’r pencampwyr mewn sefyllfa anghyfarwydd i lawr yn y 7fed safle gyda thair gêm wrth gefn.

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau yn y gynghrair hyd yma ar ôl cadw pedair llechen lân mewn pum gêm ac ildio dim ond unwaith.

Ond mae’r Seintiau wedi ennill eu chwe gornest ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd ac yn anelu i gau’r bwlch ar yr Adar Gleision.

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ✅✅➖͏➖✅

Y Seintiau Newydd: ✅✅

Pen-y-bont (1af) v Caernarfon (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Pen-y-bont sy’n arwain y pac yn y Cymru Premier JD, yn eistedd ar frig y gynghrair trwy wahaniaeth goliau.

Dyw Pen-y-bont m’ond wedi colli un o’u 14 gêm gystadleuol ddiwethaf, ac fe ddaeth y golled honno yn erbyn Caernarfon yn rownd derfynol gemau ail gyfle Ewrop ym mis Mai.

Felly bydd tîm Rhys Griffiths yn benderfynol o gael talu’r pwyth yn ôl brynhawn Sadwrn ar ôl i’r Cofis ennill 3-1 ar yr Oval ar ddiwedd y tymor diwethaf er mwyn cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae Caernarfon wedi cael dechrau digon araf i’r tymor ar ôl eu hantur Ewropeaidd, gan ennill dim ond un o’u pedair gêm gynghrair hyd yma.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ͏✅➖͏➖✅✅

Caernarfon: ❌✅➖❌

Y Bala (4ydd) v Met Caerdydd (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Met Caerdydd yn un o’r tri thîm sy’n hafal ar y copa, a’r myfyrwyr sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o goliau yn y gynghrair y tymor hwn (10 gôl).

Y chwaraewr canol cae, Ryan Reynolds sydd wedi sgorio tair o rheiny, ac ar ôl creu dwy hefyd, fo sydd wedi cyfrannu’r nifer fwyaf o goliau yn y gynghrair y tymor hwn.

Roedd Y Bala’n ennill 1-0 yn erbyn Pen-y-bont y penwythnos diwethaf cyn i George Newell gael ei anfon o’r cae, a cholli 2-1 oedd hanes criw Colin Caton yn y pen draw, sef colled gyntaf Y Bala ar Faes Tegid ers mis Chwefror (Bala 0-1 YSN).

Doedd dim modd gwahanu’r ddau dîm y tymor diwethaf gyda’r clybiau’n cyfarfod pedair gwaith a dim un o’r timau’n gallu sgorio mwy nac un gôl ym mhob un o’r gemau rheiny (Bala’n ennill un, Met yn ennill un, a dwy gêm gyfartal).

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ➖✅✅➖❌

Met Caerdydd: ͏✅➖✅➖✅

Y Drenewydd (6ed) v Llansawel (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae hi wedi bod yn ddechrau cymysglyd i’r tymor i’r Drenewydd sydd wedi mwynhau buddugoliaethau yn erbyn Aberystwyth a’r Barri, ond wedi colli’n drwm yn erbyn Caernarfon a Hwlffordd.

Mae’r Robiniaid yn bendant wedi cael gwell dechreuad na Llansawel, sydd wedi colli eu pedair gêm gynghrair ers eu dyrchafiad dros yr haf.

Cafodd clwb presennol Llansawel ei ffurfio yn 2009, a hon fydd eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Y Drenewydd.

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ͏✅➖❌✅❌

Llansawel: ❌❌❌❌

Aberystwyth (10fed) v Y Fflint (11eg) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)

This game’s personal, their manager tweeted after we got relegated last season so this is a game that my players will be 100% up for.”

Dyna oedd geiriau Lee Fowler wrth gyfeirio at y neges rannodd rheolwr Aberystwyth, Anthony Williams ym mis Ebrill 2023, sef “ONE WORD ! KARMA .”

Bydd hi’n sicr yn danllyd ar Goedlan y Parc nos Sadwrn felly wrth i’r Fflint geisio sicrhau eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad yn ôl i’r uwch gynghrair.

Pedwar pwynt sy’n gwahanu’r Fflint ac Aberystwyth, a bydd y Gwyrdd a’r Duon yn awyddus i agor bwlch rhyngddyn nhw a’r clybiau yn safleoedd y cwymp.

Record cynghrair diweddar:

Aberystwyth: ͏❌➖✅❌❌

Y Fflint: ͏❌❌❌❌❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.