Newyddion S4C

Beichiogrwydd Ectopig: Mam o Gaerdydd yn croesawu treialon cyffur newydd

06/09/2024
Helen Corsi-Cadmore

Mae mam o Gaerdydd a gafodd dau feichiogrwydd ectopig cyn cael plant yn croesawu treialon cyffur newydd a allai helpu menywod osgoi llawdriniaethau.

Mae tua un o bob 80 beichiogrwydd yn ectopig, sy'n golygu bod yr embryo yn dechrau tyfu yn y lle anghywir, yn aml y tu allan i'r groth ac fel arfer yn un o'r tiwbiau falopaidd.

Wrth iddo dyfu, mae perygl y gall y tiwb falopaidd fyrstio, a all arwain at waedu mewnol sy'n bygwth bywyd.

Pan fydd hyn yn digwydd, fel arfer mae angen llawdriniaeth frys i dynnu'r tiwb sydd wedi’i effeithio.

Nid oes ffordd o achub beichiogrwydd falopaidd ar hyn o bryd, yn ôl gwefan NHS Inform.

Yn dilyn buddsoddiad £1.6 miliwn, bydd cyfnod prawf yn cael ei gynnal gan Brifysgol Aberdeen i weld os all cyffur o’r enw mifepristone fod yn fwy effeithiol wrth ymdrin â beichiogrwydd ectopig na’r driniaeth bresennol.

Mae’r cyfnod prawf yn cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil Meddygol (MRC) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).

‘Hynod anodd’

Fe wnaeth Helen Corsi-Cadmore o Gaerdydd brofi dau feichiogrwydd ectopig cyn cael gefeilliaid drwy IVF bedair blynedd yn ôl.

Mae Mrs Corsi-Cadmore hefyd yn gydlynydd gyda'r Ymddiriedolaeth Beichiogrwydd Ectopig, sef un o’r sefydliadau sydd wedi cyfrannu i’r treialon.

Dywedodd: “Yn ystod fy meichiogrwydd ectopig cyntaf, cefais rwyg yn un o’m tiwbiau falopaidd, felly bu’n rhaid i mi gael llawdriniaeth, lle collais y tiwb. Roedd hyn yn anodd iawn i mi – roeddwn i’n teimlo bod rhaid i mi ddysgu cerdded a byw eto i gyd ar yr un pryd, wrth geisio gwella’n gorfforol ac yn feddyliol.

“Fe gymerodd ychydig flynyddoedd o wella cyn i mi deimlo’n iawn eto. Nid oeddwn erioed wedi cael unrhyw lawdriniaeth o'r blaen, heb sôn am unrhyw lawdriniaeth fawr, annisgwyl, felly roedd yn anodd ei brosesu’n gorfforol ac yn feddyliol am beth amser.

“Gyda fy ail feichiogrwydd ectopig, collais fy nhiwb falopaidd oedd yn weddill. Er bod hon yn llawdriniaeth haws, roedd yn fwy heriol yn feddyliol na'r gyntaf gan fy mod hefyd yn mynd trwy rai newidiadau mawr mewn bywyd ar yr un pryd.

“Ar ôl dioddef dau feichiogrwydd ectopig, er bod y cyntaf yn cael ei reoli’n feddygol gyda methotrexate, yn anffodus fe ddigwyddodd y rhwygo yr un noson. Felly rwy’n credu bod y cyfnod profi cyffuriau newydd yn cynnig cyfle gwerthfawr i gefnogi’r rhai sy’n profi beichiogrwydd ectopig ac o bosibl eu helpu i osgoi llawdriniaeth.”

Image
Dr Andrea Woolner, uwch ddarlithydd clinigol ym Mhrifysgol Aberdeen
Dr Andrea Woolner, uwch ddarlithydd clinigol ym Mhrifysgol Aberdeen

Yn ddiweddar, mae gwellhad wedi bod mewn diagnosis y cyflwr, sydd wedi golygu bod llai o fenywod angen llawdriniaeth. Ond gyda’r driniaeth bresennol, mae hyd at 30% o fenywod sydd â beichiogrwydd ectopig angen llawdriniaeth ar frys er mwyn tynnu tiwbiau falopaidd.

Nid oes ffordd o achub beichiogrwydd falopaidd ar hyn o bryd, yn ôl gwefan NHS Inform.

Dywedodd Dr Andrea Woolner, uwch ddarlithydd clinigol ym Mhrifysgol Aberdeen: “Mae beichiogrwydd ectopig yn golled enbyd o feichiogrwydd sy’n cael effeithiau corfforol a seicolegol sylweddol ar fenywod a’u teuluoedd, ac yn y bôn nid yw rheolaeth feddygol beichiogrwydd ectopig wedi cael unrhyw ddatblygiadau ers dros 20 mlynedd.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i dreialu cyffur ychwanegol ochr yn ochr â thriniaeth safonol ar gyfer rheolaeth feddygol beichiogrwydd ectopig.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu unrhyw ymchwil sy'n ceisio helpu a lleddfu effeithiau corfforol a meddyliol dinistriol colli beichiogrwydd.

"Mae hwn yn dreial pwysig iawn, ac unwaith y bydd ar gael, byddwn yn ystyried y manylion i benderfynu a fydd y treial yn agor yng Nghymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.