Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gollwng cyhuddiadau yn erbyn Harvey Weinstein
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gollwng dau gyhuddiad yn erbyn Harvey Weinstein o ymosod yn anweddus ar ddynes.
Dywedodd y CPS nad oedd “gobaith realistig o euogfarn erbyn hyn”.
Fe wnaeth y gwasanaeth y cyhuddiadau yn erbyn Mr Weinstein yn 2022.
Honnwyd ei fod wedi ymosod yn anweddus ddwywaith ar ddynes, oedd bellach yn ei 50au, rhwng Gorffennaf 31 ac Awst 31 1996.
Dywedodd Frank Ferguson, pennaeth adran troseddau arbennig a gwrthderfysgaeth y CPS, fod y penderfyniad i roi’r gorau i achos cyfreithiol yn erbyn y dyn 72 oed wedi’i esbonio i bawb dan sylw.
“Yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth yn yr achos hwn, mae’r CPS wedi penderfynu rhoi’r gorau i achos troseddol yn erbyn Harvey Weinstein,” meddai.
“Mae gan y CPS ddyletswydd i adolygu pob achos yn barhaus ac rydym wedi penderfynu nad oes gobaith realistig o euogfarn erbyn hyn.”