Newyddion S4C

BAFTA Cymru: Pren ar y Bryn, Cân i Gymru a Newyddion Ni ymysg yr enwebiadau

Pren ar y Bryn / BAFTA Cymru

Mae enwebiadau ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru wedi eu cyhoeddi fore Iau, gyda chyfres S4C Pren ar y Bryn yn derbyn pum enwebiad.

Bydd y noson wobrwyo yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW) yng Nghasnewydd ar 20 Hydref.

Mae 21 categori i gyd gydag enwebiadau i gynyrchiadau gan S4C, BBC, Apple TV, Sky Atlantic a llawer mwy.

Mae drama y BBC Men Up am dreialon cyffur Viagra yn arwain gyda chwech enwebiad.

Pren ar y Bryn yw'r rhaglen Gymraeg sydd â'r nifer fwyaf o enwebiadau gan gynnwys y ddrama deledu orau, Nia Roberts fel yr actores orau a Rhodri Meilir fel yr actor gorau.

Mae rhaglen Cân i Gymru hefyd wedi derbyn enwebiad ar gyfer y rhaglen adloniant orau.

Mae enwebiad hefyd i raglen Newyddion Ni sy'n cael ei gynhyrchu gan y BBC ar gyfer S4C yn y categori plant.

Mae enwebiadau i actorion Cymreig sydd wedi serennu yng nghyfresi ar blatfformau byd eang yn ogystal, gan gynnwys Sion Daniel Young fel yr actor gorau ar gyfer rhaglen Slow Horses a Welcome to Wrexham fel y gyfres ffeithiol orau.

Nid yw'r wobr ar gyfer y rhaglen newyddion a materion cyfoes wedi ei chynnwys eleni.

Dyma'r enwebiadau'n llawn

Actor

  1. Ncuti Gatwa - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  2. Philip Glenister - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

  3. Rhodri Meilir - Pren ar y Bryn - Fiction Factory / S4C

  4. Sion Daniel Young - Slow Horses - See-Saw Films mewn cysylltiad ag Apple / Apple TV+

Actores

  1. Aimee-Ffion Edwards - Dreamland - Merman Television / Sky Atlantic

  2. Alexandra Roach - Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

  3. Annes Elwy - Bariau - Rondo Media / S4C

  4. Nia Roberts - Pren ar y Bryn - Fiction Factory / S4C

Image
Annes Elwy Bariau
Annes Elwy ar set Bariau.

Cymru Torri Drwodd

  1. Alaw Llewelyn Roberts - Bariau - Rondo Media / S4C

  2. Bethan Marlow - The Date - Candid Broads Productions

  3. Daisy Brown - Slammed: The Eighties - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

  4. Janis Pugh - Chuck Chuck Baby - Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

Rhaglen Blant

  1. I Was Bullied - Yeti Television / CBBC

  2. Newyddion Ni - BBC Cymru / S4C

  3. Sêr Steilio - Yeti Television / S4C

Dylunio Gwisgoedd

  1. Dawn Thomas-Mondo - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

  2. Hayley Nebauer - Black Cake – Hulu / CBS UK Productions Ltd / Kapital Entertainment / Disney+

  3. Ffion Elinor - Pren ar y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

Cyfarwyddwr: Ffeithiol

  1. Caryl Ebenezer - Siân Phillips yn 90 - Rondo Media / S4C

  2. Chloe Fairweather - The Kidnap of Angel Lynn - Wonderhood Studios / Channel 4

  3. Jenny Casterton - The Crash Detectives - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

  4. Jess Howe - Strike! The Women Who Fought Back - Frank Films / BBC One Wales

Cyfarwyddwr: Ffuglen

  1. Ashley Way - Men Up - Quay Street Productions / Boom Cymru / BBC One

  2. Euros Lyn - Heartstopper - See-Saw Films / Netflix

  3. Lee Haven Jones - Passenger - Sister Pictures / ITV/ Britbox / ITV1

  4. Marc Evans - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

Golygu

  1. Dylan Goch - Firebombers - Zwwm / BBC One Wales

  2. John Richards - Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

  3. Sara Jones - The Way - Red Seam mewn cysylltiad â Little Door Productions / BBC One

  4. Tim Hodges - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

Rhaglen Adloniant

  1. Cân I Gymru 2024 - Afanti Media / S4C

  2. Christmas With Katherine Jenkins - Afanti Media / BBC Two

  3. Iaith Ar Daith - Boom Cymru / S4C

  4. Max Boyce At 80 - Afanti Media / BBC One Wales

Image
Can i Gymru
Sara Davies (canol) ar ôl ennill gwobr Cân i Gymru eleni.

Cyfres Ffeithiol

  1. Siwrna Scandi Chris - Cwmni Da / S4C

  2. Slammed: The Eighties - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

  3. Welcome To Wrexham - NEO Studios for Boardwalk Pictures / FX/ Disney+

  4. Y Frwydr: Stori Anabledd - Cardiff Productions / S4C

Ffilm Nodwedd/Deledu

  1. Bolan's Shoes - Buffalo Dragon

  2. Chuck Chuck Baby - Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

  3. Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

Colur a Gwallt

  1. Claire Pritchard-Jones - Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

  2. Claire Williams - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  3. James Spinks - Y Sŵn - Swnllyd

Ffotograffiaeth Ffeithiol

  1. Haydn Denman - Siân Phillips yn 90 - Rondo Media / S4C

  2. Sam Jordan-Richrdson - Legends of Welsh Sport: Jim Roberts - On Par Productions / BBC One Wales

  3. Theo Tennant - Frontier Town - Beehive Films Ltd

Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen

  1. Bryan Gavigan - Passenger - SISTER mewn cysylltiad â Northern SISTER / ITV

  2. Sam Heasman - Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

  3. Sam Thomas - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

Cyflwynydd

  1. Chris Roberts - Siwrna Scandi Chris - Cwmni Da / S4C

  2. Lemarl Freckleton - Black Music Wales - Lazerbeam / BBC Two Wales

  3. Rhod Gilbert - Rhod Gilbert: A Pain In the Neck - Kailash Films / Llanbobl Vision / Channel 4

  4. Stifyn Parri - Paid â Dweud Hoyw - Rondo Media / S4C

Image
Siwrna Scandi Chris
Mae Chris Roberts wedi ei enwebu am y cyflwynydd gorau ar gyfer Siwrna Scandi Chris.

Dylunio Cynhyrchiad

  1. Caroline Steiner - Chuck Chuck Baby - Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

  2. Gerwyn Lloyd - Pren ar y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

  3. James North - The Winter King - Bad Wolf / ITVX

Ffilm Fer

  1. Being Seen - On Par Productions

  2. Frontier Town - Beehive Films Ltd

  3. Smile - Tremendos Films / Captain Howdy Films Ltd

  4. Spectre Of The Bear - CPE Productions / Ffilm Cymru Wales / BFI Network / BBC Cymru Wales

Rhaglen Ddogfen Sengl

  1. Paid  Dweud Hoyw - Rondo Media / S4C

  2. Rhod Gilbert: A Pain In The Neck - Kailash Films / Llanbobl Vision / Channel 4

  3. Siân Phillips Yn 90 - Rondo Media / S4C

  4. Strike! The Women Who Fought Back - Frank Films / BBC One Wales

Sain

  1. Tîm sain Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  2. Tîm sain Men Up - Quay Street Productions / Boom Cymru / BBC One

  3. Tîm sain Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

Drama Deledu

  1. Casualty - BBC Studios / BBC One

  2. Pren Ar Y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

  3. Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

Awdur

  1. Russell T Davies - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  2. Matthew Barry - Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

  3. Megan Gallagher - Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

Prif lun: S4C/BAFTA Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.