Ymgynghori ar godi tâl o hyd at £5 am barcio ar bromenâd Aberystwyth
Mae arweinwyr Cyngor Ceredigion wedi cefnogi dechrau ymgynghoriad ar godi tâl o hyd at £5 am barcio ar bromenâd Aberystwyth.
Yn ystod cyfarfod 10 awr a hanner o hyd ddydd Mawrth cytunodd cabinet y sir i gefnogi cynnal proses ymgynghori ar y cynigion.
Clywodd y cabinet bod tref Llandudno yn y gogledd eisoes wedi dechrau codi tâl a’r fath.
Dan y cynlluniau newydd byddai'r cyngor yn codi £3.50 am ddwy awr a £5 am bedair am barcio mewn 179 o safleoedd ar lan y môr.
Fe fyddai yna eithriadau ar gyfer pobl sydd â bathodyn glas.
Wrth siarad yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth un o gynghorwyr Aberystwyth, Alun Williams gymharu’r sefyllfa barcio yn y dref â threfi glan môr eraill fel Llandudno.
Yno roedd pobl wedi talu am barcio “ers blynyddoedd lawer,” meddai.
“Does neb yn hoffi taliadau newydd, ond dydw i ddim yn gwybod am unrhyw dref yn unman gyda phrom tebyg yn agos at ganol y dref sydd ddim yn codi tâl,” meddai.
“Dyw e ddim yn wedi gwneud fawr o synnwyr bod lleoliad mor wych yn llawn i bob pwrpas o 9am bob dydd am ran helaeth o’r flwyddyn.
“Mae lleoedd gwag yn brin; dim lleoedd i siopwyr sydd eisiau gwario ychydig o arian.”
‘Proses’
Bydd proses ymgynghori ar y cynigion a gyflwynwyd yn cychwyn yn fuan ac fel rhan o hyn bydd cyfle i randdeiliaid, gan gynnwys preswylwyr, busnesau/staff, ac ymwelwyr rannu eu barn, meddai’r cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Briffyrdd ar ôl y cyfarfod: “Mae promenâd Aberystwyth yn leoliad gwerthfawr yng nghanol y dref.
“Pwrpas y cynllun yw creu trosiant o draffig i alluogi fwy o geir i fynd a dod heb effeithio’n negyddol ar economi’r sir.
“Cyn bo hir, bydd y broses ymgynghori ar y cynigion a gyflwynwyd yn dechrau felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymateb i'r ymgynghoriad.”