Cyfraith newydd yn bygwth carchar i reolwyr cwmnïoedd dŵr
Gall rheolwyr cwmnïoedd dŵr wynebu carchar neu gael eu gwahardd rhag derbyn taliadau bonws dan ddeddfwriaeth newydd i geisio mynd i’r afael a gollyngiadau carthion.
Mae disgwyl i'r bil ar gyfer cwmnïau yng Nghymru a Lloegr rhoi mwy o rymoedd i reoleiddwyr yn y ddwy wlad weithredu.
Bydd y Bil yn rhoi pwerau i Ofwat sy’n rheoleiddio’r diwydiant yng Nghymru a Lloegr wahardd tâl ar sail perfformiad gan gynnwys bonysau i brif weithredwyr.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr hefyd yn cael grymoedd newydd i ddwyn ymlaen cyhuddiadau troseddol.
Nid yw’n amlwg eto o gyhoeddiad Llywodraeth y DU a fydd Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoleiddio'r amgylchedd yng Nghymru yn cael yr un grymoedd fel rhan o’r bil.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Steve Reed: “Mae’r cyhoedd yn gandryll fod y lefelau uchaf erioed o garthffosiaeth yn cael ei bwmpio i’n hafonydd, llynnoedd a moroedd.
“Ni fydd swyddogion dŵr bellach yn llenwi eu pocedi eu hunain wrth bwmpio allan budreddi.
“Os ydyn nhw’n gwrthod cydymffurfio, fe allen nhw fod yn y llys yn y pen draw ac wynebu amser carchar.”
'Terfyn'
Dywedodd llefarydd ar ran Water UK sy’n cynrychioli'r diwydiant darparu dŵr eu bod nhw’n “cytuno gyda’r Llywodraeth bod y system ddŵr wedi torri.
“Er mwyn ei drwsio mae angen i'r Llywodraeth gyflawni'r ddau beth y mae wedi'u haddo: diwygio rheoleiddiol sylfaenol a chyflymu buddsoddiad,” medden nhw.
“Mae angen i Ofwat gefnogi ein cynllun buddsoddi gwerth £105 biliwn yn llawn i sicrhau ein cyflenwadau dŵr, galluogi twf economaidd a rhoi terfyn ar arllwysiad carthion i’n hafonydd a’n moroedd.”
Honnodd y Ceidwadwyr fod Llafur yn “ceisio cymeradwyo mesurau a weithredwyd o dan y Ceidwadwyr” fel eu rhai eu hunain.