Saethu ysgol UDA: Yr heddlu wedi cyfweld â bachgen 14 y llynedd
Roedd yr heddlu eisoes wedi cyfweld â bachgen 14 oed sydd bellach wedi ei gyhuddo o ladd pedwar o bobol mewn ysgol yn nhalaith Georgia yn yr UDA.
Dywedodd yr FBI eu bod nhw wedi cyfweld ag ef am fygythiadau dienw ar-lein y llynedd.
Roedd Colt Gray wedi gwadu bryd hynny mai ef oedd yn gyfrifol am y negeseuon oedd yn rhybuddio am saethu mewn ysgol.
Mae wedi ei gyhuddo o saethu a lladd dau athro a dau ddisgybl yn ysgol uwchradd Apalachee yn ninas Winder ddydd Mercher.
Cafodd ei arestio yn yr ysgol a bydd yn cael ei erlyn fel oedolyn.
Bu farw'r athrawon Christina Irimie a Richard Aspinwall a’r disgyblion 14 oed Mason Schermerhorn a Christian Angulo o ganlyniad i’r ymosodiad.
Mewn datganiad, dywedodd yr FBI fod ei Ganolfan Ymateb i Fygythiad Cenedlaethol wedi rhybuddio’r heddlu lleol ym mis Mai 2023.
Bryd hynny roedden nhw wedi nodi negeseuon dienw ar-lein yn bygwth “cyflawni saethu mewn ysgol” ond doedd dim lleoliad neu amser penodol.