Newyddion S4C

Carcharu dyn o Fôn am frathu clust plismon

Kevin Humphries

Mae dyn o Ynys Môn oedd wedi’i gyhuddo o frathu rhan o glust plismon yn ystod ffrwgwd wedi ei garcharu am 40 mis.

Fe wnaeth Kevin Jones, 40 oed, o Ben y Bryn, Dwyran, gyfaddef cyhuddiad o anafu PC James Marsden gyda’r bwriad o osgoi cael ei arestio ar ôl i’r heddlu gael eu galw i’r pentref fis diwethaf.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth fod yr heddlu wedi chwistrellu Jones gyda hylif i geisio ei dawelu wrth geisio ei ddal.

Roedd gan Jones 129 o droseddau blaenorol, yn cynnwys trais, ar ei record droseddol.  

Dywedodd y bargyfreithiwr Dafydd Roberts ar ran yr amddiffyniad fod Jones wedi honni ei fod wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn.   

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts fod rhan fechan o glust y swyddog wedi ei brathu i ffwrdd a bod hyn yn golygu bod yr heddlu un swyddog yn brin yn ystod cyfnod prysur y Nadolig.

Cafodd Kevin Jones orchymyn i dalu iawndal o £228 i'r heddwas.

Image
Clust
Clust PC James Marsden

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis: “Nid yw ac ni fydd dioddef ymosodiad yn rhan o swydd heddwas.

“Nid yw unrhyw ymosodiad ar unrhyw weithiwr gwasanaeth brys byth yn dderbyniol a bydd troseddwyr yn cael eu trin mewn modd cadarn.

“Cafodd PC Marsden anaf fydd byth yn gwella wrth iddo geisio amddiffyn rhywun oedd angen cymorth.

“Bu’n rhaid iddo fynd adref at ei anwyliaid ac egluro i’w bartner beichiog beth oedd wedi digwydd tra'r oedd ar ddyletswydd.

“Heb os, bydd hyn yn cael effaith barhaol, nid yn unig ar PC Marsden, ond ar ei gydweithwyr a’i deulu hefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.