Newyddion S4C

Penodi pennaeth rygbi menywod yng Nghymru

Belinda Moore

Mae Belinda Moore wedi ei phenodi'n Bennaeth Rygbi Menywod yng Nghymru, sy'n swydd newydd gydag Undeb Rygbi Cymru. 

Cyhoeddodd yr undeb eu bod wedi penodi cyn-brif weithredwr Premiership Women's Rugby i geisio trawsnewid y gêm yng Nghymru.

Fe fydd yn cyflawni'r swydd am naw mis, cyn bod yn rhan o'r gwaith o benodi olynydd.

Daw'r penodiad wedi cyfnod anodd i'r Undeb, gan gynnwys ymddiheuriad ddechrau Tachwedd am y modd y cafodd cytundebau eu trafod gydag aelodau o dîm menywod rygbi Cymru. 

Daeth yr ymddiheuriad hwnnw lai na blwyddyn ers adolygiad annibynnol damniol i ddiwylliant yr undeb.

Ac ymddiswyddodd Ioan Cunningham fel prif hyfforddwr tîm rygbi menywod Cymru fis Tachwedd, wedi rhediad gwael ar ôl ennill pedair allan o’u 11 gêm yn unig yn y flwyddyn ddiwethaf..

Bydd Belinda Moore yn gweithio'n agos gyda hyfforddwr newydd tîm y menywod, ac mae disgwyl cyhoeddiad am y rôl honno yn y dyddiau nesaf.

Mae Ms Moore yn wraig i gyn-fachwr Lloegr Brian Moore, a hi oedd yn gyfrifol am y gwaith o drawsnewid cynghrair y menywod yn Lloegr. 

Dywedodd ei bod yn ymuno ag Undeb Rygbi Cymru ar adeg "hynod o gyffrous."

Llun: Undeb Rygbi Cymru 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.