Newyddion S4C

Ansawdd dŵr Afon Gwy: 'Un rhan o'r jig-so' yw ffosffad medd adroddiad

Afon Gwy

Ni fydd ansawdd y dŵr yn Afon Gwy yn gwella drwy ganolbwyntio ar reoli lefel y ffosffad yn unig, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r cemegyn, sy’n cyrraedd yr afon sy'n llifo drwy Gymru a Lloegr drwy amrywiaeth o ffynonellau, yn cael ei gysylltu â chynnydd mewn blymau algâu (algal blooms).

Mae blymau algâu yn niweidiol i ecoleg yr afon, bywyd gwyllt, a’r rhai sy’n defnyddio’r afon ar gyfer nofio a physgota.

Ond mae’r adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod y ffosffad yn bennaf o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Yn hytrach, fe wnaeth yr ymchwilwyr ddarganfod cymuned o algâu amrywiol gan gynnwys yr hyn a elwir yn diatomau, algâu gwyrdd ac algâu gwyrddlas.

Fe gafodd lefelau amrywiol o ffosfforws a nitrogen hefyd eu darganfod yn yr ardal.

Fe ddaeth yr astudiaeth i'r casgliad bod sawl ffactor yn cael effaith ar iechyd Afon Gwy, gan gynnwys lefelau uwch o amoniwm a nitrad, newidiadau tymhorol i lif yr afon, yn ogystal â thymheredd uchel yn ystod yr haf.

Er mwyn gwella iechyd yr afon, dywedodd yr ymchwilwyr ei bod yn "hanfodol" cael dull gweithredu holistig.

Byddai'r dull yma yn mynd i’r afael â chyfradd llif yr afon a thymheredd y dŵr, ac yn lleihau’r holl faetholion sy'n dod o bob ffynhonnell, medden nhw.

'Un darn o'r jig-so'

Dywedodd yr Athro Rupert Perkins, o Brifysgol Caerdydd: “Mae ffosffad yn cael ei ystyried fel rhywbeth hawdd i ganolbwyntio arno fel achos ansawdd dŵr gwael, ond dim ond un darn o’r jig-so ydyw.

“Trwy astudio’r fioleg gydag eDNA, ynghyd â mesuriadau ansawdd dŵr, rydyn ni’n cael gwell dealltwriaeth o’r ystod o achosion y tu ôl i’r problemau yn yr afon.

“Nid ydym yn dweud y gallwn anghofio am ffosffad yn gyfan gwbl.

“Mae'n rhaid i ni edrych ar yr holl faetholion yn ogystal â chyfraddau llif, tymheredd a bioleg Afon Gwy, gan weithio ar ddulliau rhagofalus ac ataliol yn yr ardal.

“Bydd creu cynllun gweithredu holistig sy’n ymdrin â’r ystod o achosion sy’n effeithio ar ansawdd dŵr yn helpu sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd i reoli'r Afon Gwy, ac ar raddfa lawer ehangach hefyd.

“Mae’n afon hardd gyda llawer o fywyd gwyllt gwych, ond mae angen i ni edrych ar y darlun ehangach ac nid atebion syml, cyflym.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.