Ni fydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo i adeiladu 20,000 o gartrefi heb 'wariant ychwanegol sylweddol'
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn 2026 heb "wariant ychwanegol sylweddol", yn ôl adroddiad newydd gan gorff cyhoeddus.
Mae'r adroddiad gan Archwilio Cymru yn awgrymu na fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu erbyn mis Mawrth 2026 gyda'i chyllid presennol.
Mae'r targed yn rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2026.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod chwyddiant wedi gwneud cyrraedd y targed yn "heriol" ond bod mynd i’r afael â digartrefedd a darparu mwy o gartrefi yn "flaenoriaeth allweddol", gyda mwy na £1.4 biliwn wedi’i fuddsoddi hyd yn hyn.
Yn 2021, fe wnaeth Llywodraeth Cymru amcangyfrif y byddai’n gwario oddeutu £1.6 biliwn ar gynlluniau cyfalaf craidd i gyrraedd y targed.
Rhwng 2021-22 a 2023-24, roedd wedi gwario £1.1 biliwn ar y cynlluniau craidd, gyda chyllideb dybiannol bellach o £730 miliwn ar gyfer 2024-25 a 2025-26.
Ond yn ôl amcangyfrifon Archwilio Cymru, gallai fod angen rhwng £580 miliwn a £740 miliwn o gyfalaf ychwanegol i gyrraedd y targed erbyn 2026.
Heb gyllid ychwanegol, bydd y Llywodraeth yn darparu rhwng 15,860 ac 16,670 o'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol, meddai'r corff.
'Dewisiadau anodd'
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Archwilio Cymru, Adrian Crompton, bod Llywodraeth Cymru yn wynebu "dewisiadau anodd".
"Mae chwyddiant prisiau wedi taro’r rhaglen tai fforddiadwy’n galed," meddai.
"Yn awr mae Llywodraeth Cymru’n wynebu dewisiadau anodd ynglŷn â’i blaenoriaethau cyllido a’i dull os yw’n dal i fod yn ymrwymedig i gyrraedd neu fynd yn agos at ei tharged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn mis Mawrth 2026."
Ychwanegodd: "Bydd ymateb Llywodraeth Cymru i hyn yn brawf pellach ar y modd y mae’n cymhwyso’r ffyrdd o weithio a ddisgwylir dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
"Mae hyn yn cynnwys sut y mae’n taro cydbwysedd rhwng anghenion byrdymor a hirdymor, yn adeiladu ar ei dull cydweithredol, ac yn ceisio cynyddu i’r eithaf y deilliannau cadarnhaol sy'n cael eu cyflawni gan y gwariant cyhoeddus sylweddol yn y maes yma."
Yn ôl Hayley Macnamara, Pennaeth Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru, cynyddu'r cyflenwad o gartrefi addas yw'r ateb i'r argyfwng dai.
"Dyna pam mae cymdeithasau tai yng Nghymru wedi parhau i ganolbwyntio ar adeiladu a datblygu yn gyflym ac ar raddfa, er gwaethaf yr heriau helaeth sy'n parhau i wynebu adeiladwyr tai'r DU," meddai.
"Er bod cymdeithasau tai wedi llwyddo i ddarparu 70-80% o gartrefi cymdeithasol newydd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, fel mae'r adroddiad yma'n ei ddangos, mae yna ffyrdd gwahanol o weithio a allai helpu i sicrhau y gall y sector gyrraedd y targed o 20,000."
Ychwanegodd: "Mae darparu sicrwydd a goresgyn cyfyngiadau cyflawni yn hanfodol i ddatgloi’r rhwystrau presennol, felly rydym yn cefnogi argymhellion yr adroddiad i ddatblygu dull hirdymor o ariannu a darparu tai cymdeithasol."
Buddsoddi £1.4 biliwn
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn diolch i Archwilio Cymru am eu hadroddiad ar dai fforddiadwy yng Nghymru a byddwn yn ystyried ei ganfyddiadau a’i argymhellion ac yn ymateb maes o law.
“Mae ystod o ffactorau yn effeithio ar y cyflenwad tai, yn enwedig pwysau parhaus chwyddiant yn ddiweddar, sydd wedi gwneud cyrraedd y targed hyd yn oed yn fwy heriol. Rydym yn parhau i weithio gyda’r sector tai i ddarparu mwy o gartrefi.
“Mae mynd i’r afael â digartrefedd a darparu mwy o gartrefi yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon ac rydym wedi gosod targed heriol ac wedi clustnodi lefelau uchaf erioed o gyllid i’r cyflenwad tai yn ystod tymor y Senedd hon, gyda mwy na £1.4 biliwn wedi’i fuddsoddi hyd yn hyn.”