Newyddion S4C

'Diwrnod cyffrous': Cymeradwyo cynllun i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid

04/09/2024
Rheilffordd Y Bala

Mae cynllun i ymestyn rheilffordd boblogaidd ger Llyn Tegid yn Y Bala wedi cael eu cymeradwyo.

Fe allai'r cynlluniau olygu rhwng 40,000 a 60,000 a rhagor o deithwyr ar Reilffordd Llyn Tegid yn gwario'n lleol, gan gynnig hwb i fusnesau ac economi'r ardal, meddai cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid.

Bydd y cynlluniau yn golygu adeiladu 1,200m o drac i fewn i ganol y dref, croesfan ac adeilad newydd i'r orsaf.

Cafodd y cais cynllunio ei wneud gan Julian Burley, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid.

Fe wnaeth y cais gwreiddiol gael ei wrthod ym mis Ebrill y llynedd, ond wrth siarad yng nghyfarfod cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher dywedodd Mr Burley y bydd y rheilffordd ar ei newydd wedd o "fudd i'r dref i gyd.

"Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn fudiad sydd wedi ei redeg yn bennaf gan wirfoddolwyr," meddai.

"Mae'r busnes yn llwyddiannus, a dros y 10 mlynedd diwethaf mae nifer yr ymwelwyr wedi tyfu 70%.

"Ar hyn o bryd, nid yw'r orsaf yn gwasanaethu'r dref yn dda iawn ac wedi ei rwystro gan ddiffyg parcio.

"Bydd ymestyn y rheilffordd i ganol yn dref... yn dod a buddion mawr i bobl a busnesau'r Bala."

Image
Cynlluniau Rheilffordd Llyn Tegid
Y cynlluniau ar gyfer Rheilffordd Llyn Tegid. Llun: Parc Cenedlaethol Eryri

'Cam i fuddsoddi’n lleol'

Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn 7.2 cilomedr o hyd ac yn rhedeg rhwng pentref Llanuwchllyn a'r orsaf ym Mhen y Bont yn ne orllewin Y Bala.

Dywedodd swyddog cynllunio wrth y cyfarfod bod "asesiad trylwyr" o'r cynlluniau wedi cael ei wneud a byddai ymestyn y rheilffordd yn "sicrhau atyniad twristaidd newydd a fyddai o fudd i dref Y Bala a'r ardaloedd cyfagos."

Ychwanegodd Mr Burley y byddai'r rheilffordd yn golygu buddsoddiad sylweddol i'r dref.

"Mae'r Bala yn cael ei anghofio wrth drafod datblygiad economaidd, ac mae galw mawr am fuddsoddu'n lleol, mae ein prosiect yn gam pwysig wrth wireddu hynny," meddai.

"Mae cefnogi'r prosiect hwn yn anfon neges fod Bala a'r rhan hon o Wynedd heb gael ei hanwybyddu a'i anghofio, ac yn gallu gweld dyfodol disglair, cynaliadwy sydd werth buddsoddi ynddo.

"Mae hwn yn ddiwrnod cyffrous yng Nghymru a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi."

Llun: Rheilffordd Y Bala

 

 
 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.