Teyrnged i ddyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
Mae teulu dyn 57 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Christopher Brian Boyle o Gilgeti mewn gwrthdrawiad ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun ddydd Llun.
Dywedodd ei deulu ei fod yn berson oedd yn cynnig cymorth i bawb.
"Roedd Chris yn fab, tad brawd ac ewythr annwyl iawn," medden nhw.
"Roedd yn cael ei adnabod fel 'Mucker' gan ei ffrindiau, ac roedd yn chwarae rhan amlwg yn y gymuned a byddai’n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un.”
Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys ar-lein neu ar rif 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 405 o'r 2ail.