Prinder meddyginiaeth ffibrosis systig yn 'rhoi bywydau yn y fantol'
Prinder meddyginiaeth ffibrosis systig yn 'rhoi bywydau yn y fantol'
"Mae 'na lot o wahanol dabledi ar gael i gymryd yn y bore a'r nos...
"..a'r Creons 'ma 'dan ni'n cymryd efo pryd o fwyd."
Dim ond rhai o'r arferion dyddiol i ferched David, Imogen ac Anabel sy'n byw hefo'r cyflwr ffibrosis cystig.
"Pan maen nhw'n bwyta, mae braster, heb y rhain, yn pasio syth drwodd.
"Mae'n neud nhw efo poen bol ac yn mynd i'r toiled o hyd.
"Rhaid cael un o'r rhain efo bob 3g i 5g o fraster maen nhw'n bwyta."
Cyflwr geneteg ydy ffibrosis cystig sy'n achosi mwcws gludiog i gasglu yn yr ysgyfaint a'r system dreulio.
Mae'n achosi heintiau a phroblemau gyda threulio bwyd.
Mae 80% o'r rheiny sy'n dioddef yn gorfod cymryd tabled fel Creon gyda phob pryd o fwyd i reoli'r cyflwr.
Mae 'na boeni bod y cyffur yn brin ac mae bod heb y cyffur yn risg.
"Digon am tua mis gynnon ni ar ôl a 'na fo.
"Heb y rhain, does 'na ddim byd yn eu lle nhw ar y funud."
Mae un aelod o'r Senedd yn galw am newid ar unwaith ar ôl i sawl un o'i etholaeth gysylltu yn poeni am y cyflenwad.
"Mae'n argyfwng o ystyried nad ydy'r cyffur sy'n arbed bywydau ar gael.
"Mae'r ffaith bod nhw'n methu cael y cyffur i gael y maith i'w cyrff yn golygu bod eu hiechyd a'u bywydau nhw yn y fantol.
"Rhaid gweld mwy o fuddsoddiad gan y Llywodraeth i ddatblygu cyffur i sicrhau bod y gofal a'r triniaeth ar gael i bobl a cystic fibrosis a chlefydau tebyg."
Mae'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig wedi monitro'r sefyllfa ond yn rhybuddio y bydd y prinder yn parhau am gyfnod eto.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cynnal parhad cyflenwad meddyginiaethau i'r DU yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig ond eu bod yn gweithio'n agos gyda nhw a chyrff iechyd i sicrhau bod unrhyw amhariad i'r cyflenwad yn cael ei leihau.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn wynebu problemau cyson sy'n effeithio ar argaeledd meddyginiaethau gan gynnwys Creon.
Maen nhw hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Iechyd i geisio lleihau y risg i gleifion.
"Mae cyffuriau newydd wedi dechrau gwella bob dim.
"Maen nhw'n byw bywydau normal ond pan mae problemau efo'r rhain, mae'n dadsetlo pethau."
Er bod triniaeth sydd ar gael i fonitro'r cyflwr wedi datblygu mae'r sefyllfa fel mae hi ar hyn o bryd yn poeni nifer o deuluoedd.