Newyddion S4C

Arestio dau wedi i blanhigion canabis gwerth £450,000 gael eu darganfod yn Y Trallwng

04/09/2024
Planhigion canabis

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i 580 o blanhigion canabis gwerth bron i £500,000 gael eu darganfod yn Y Trallwng.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ddarganfod y planhigion mewn dau adeilad ar Stryd Lydan yng nghanol y dref.

Dywedodd y llu bod gwerth y planhigion canabis dros £450,000.

Cafodd Alban Qemalli ei gyhuddo o dyfu canabis mae wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mercher.

Mae dyn 27 oed hefyd wedi cael ei arestio am dyfu canabis ac mae'n parhau i gael ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Lovatt o Heddlu Dyfed Powys bod "swm sylweddol o ganabis" wedi cael ei ddarganfod.

"Roedd hon yn ymgyrch lwyddiannus a welodd cydweithio rhwng nifer o adrannau o fewn Heddlu Dyfed-Powys.

"Dros y deuddydd diwethaf mae swm sylweddol o ganabis wedi cael ei dynnu allan o'r gadwyn gyflenwi."

Llun: Heddlu Dyfed-Powys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.