'Degawdau o fethiannau' wedi arwain at dân Tŵr Grenfell medd adroddiad damniol
'Degawdau o fethiannau' wedi arwain at dân Tŵr Grenfell medd adroddiad damniol
Roedd tân Tŵr Grenfell a laddodd 72 o bobl yn ganlyniad i "ddegawdau o fethiannau" gan lywodraethau a'r diwydiant adeiladu yn ôl adroddiad damniol i'r trychineb.
Mae'r adroddiad terfynol i'r ymchwiliad i'r tân yn 2017 wedi ei gyhoeddi fore ddydd Mercher.
Bu farw 72 o bobl ac fe gafodd y tŵr o fflatiau yn Llundain, oedd yn gartref i fwy na 200 o bobl, ei ddinistrio ar 14 Mehefin 2017.
Fe gafodd ymchwiliad cyhoeddus ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ar y pryd, Theresa May, ddiwrnod wedi'r tân.
Roedd yr adeilad yng ngorllewin Llundain wedi ei orchuddio mewn cynnyrch a allai losgi, a hynny yn sgil "anonestrwydd systematig" cwmnïau a wnaeth gynhyrchu a gwerthu'r cladin yn ôl cadeirydd yr ymchwiliad, Syr Martin Moore-Bick.
Mae'r adroddiad terfynol, sydd bron i 1,700 tudalen o hyd, yn amlinellu sut na wnaeth y rhai mewn swyddi arwyddocaol wrando na gweithredu ar rybuddion o danau yn y gorffennol.
Dywedodd Syr Martin: "Rydym ni wedi dod i'r casgliad fod y tân yn Nhŵr Grenfell yn ganlyniad i ddegawdau o fethiannau gan y llywodraeth a chyrff eraill sydd â chyfrifoldeb yn y diwydiant adeiladu i edrych yn ofalus ar y peryglon o ddeunyddiau llosgadwy yn waliau allanol adeiladau uchel ac i weithredu ar y wybodaeth oedd ar gael iddynt."
Dywedodd Grenfell United, sy'n cynrychioli rhai o'r bobl fu farw a'r goroeswyr, fod yr adroddiad terfynol yn "bennod arwyddocaol" yn y blynyddoedd ers y tân, ond "nad oes cyfiawnder".
Mae hynny, yn ôl Grenfell United, oherwydd fod angen i'r heddlu ac erlynwyr "sicrhau fod y rhai sydd wirioneddol yn gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif ac yn wynebu cyfiawnder."
Mae Heddlu'r Met wedi dweud eu bod nhw'n gweithredu o dan "fframwaith gyfreithiol wahanol ac felly nid ydym ni'n gallu defnyddio canfyddiadau'r adroddiad fel tystiolaeth i gyflwyno cyhuddiadau".
Ond fe wnaeth y llu addo i fynd drwy'r adroddiad "fesul llinell".
Erbyn 2016, flwyddyn cyn y trychineb, roedd Llywodraeth y DU yn "ymwybodol iawn" o'r peryglon o ddefnyddio paneli cladin llosgadwy, yn benodol mewn adeiladau uchel, ond fe wnaethon nhw "fethu â gweithredu ar yr hyn yr oedden nhw yn ei wybod" medd yr adroddiad.
Fe wnaeth y cwmni cladin Arconic a chwmnïau inswleiddio Kingspan a Celotex wynebu beirniadaeth chwyrn hefyd.
Wrth wneud 58 o argymhellion, daeth Syr Martin i'r casgliad fod y diwydiant adeiladu bellach yn "rhy gymhleth ac ar wahân".
Ychwanegodd Syr Martin er bod y gwasanaeth tân wedi dysgu gwersi o'r tân yn Nhŷ Lakanal a laddodd chwech o bobl yn 2009, roedd methiannau'r gwasanaeth oherwydd ei "anallu i sicrhau unrhyw ymateb effeithiol".
Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer fod yr adroddiad wedi adnabod "methiannau sylweddol ac eang" ac y bydd y Llywodraeth yn ei ystyried yn ofalus a'i argymhellion "er mwyn sicrhau na fydd trychineb o'r fath yn digwydd byth eto."