Disgwyl i bensiwn gwladol godi £400
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn disgwyl i bensiwn gwladol godi yn uwch na chwyddiant flwyddyn nesaf.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi eu gweld gan y BBC mae amcangyfrif y trysorlys yn dangos bydd y pensiwn yn codi £400 Ebrill 2025.
Bydd hyn yn digwydd oherwydd y clo triphlyg (triple lock) sef ymrwymiad y bydd y pensiwn yn codi bob blwyddyn i'w gymharu â chyflogaeth, chwyddiant neu 2.5%.
Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud cyn y Gyllideb fis nesaf ond mae'r Canghellor, Rachel Reeves, wedi dweud yn barod ei bod wedi ymrwymo i'r clo triphlyg.
Wythnos yma mae yna feirniadaeth wedi bod ynglŷn â phenderfyniad y Llywodraeth Lafur i ddileu Taliadau Tanwydd y Gaeaf i'r rhan fwyaf o bensiynwyr.