Newyddion S4C

Disgwyl cyhoeddi adroddiad terfynol tân Tŵr Grenfell

04/09/2024
grenfell.png

Mae disgwyl i'r adroddiad terfynol i Dŵr Grenfell gael ei gyhoeddi ddydd Mercher, saith mlynedd ar ôl y tân a laddodd 72 o bobl. 

Dyma fydd yr adroddiad terfynol i'r ymchwiliad i'r tân yn 2017. Mae disgwyl iddo fynegi canfyddiadau am weithredoedd cwmnïau yn y diwydiant adeiladu, yr awdurdod lleol, Gwasanaeth Tân Llundain a'r llywodraeth.

Mae teuluoedd y rhai fu farw wedi mynnu fod yn rhaid iddo fod yn "adroddiad arwyddocaol" sy'n arwain at newid mawr. 

Bu farw 72 o bobl ac fe gafodd y tŵr o fflatiau yn Llundain, oedd yn gartref i fwy na 200 o bobl, ei ddinistrio ar 14 Mehefin 2017.

Fe gafodd ymchwiliad cyhoeddus ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ar y pryd, Theresa May, ddiwrnod wedi'r tân.

Daeth adroddiad yn 2019, o ran gyntaf yr ymchwiliad, i'r casgliad nad oedd cladin y tŵr yn cydymffurfio â rheolau adeiladu ac mai dyma'r "prif reswm" dros ledaeniad cyflym y tân.

Daw'r adroddiad terfynol ychydig dros wythnos wedi tân mawr mewn bloc o fflatiau yn nwyrain Llundain a oedd yn mynd drwy'r broses o gael gwared ar y cladin yn sgil yr hyn ddigwyddodd yn Grenfell.

Ym mis Mai, dywedodd Heddlu'r Met fod eu hymchwilwyr angen hyd at ddiwedd 2025 er mwyn cwblhau eu hymchwiliad, gydag erlynwyr wedyn angen blwyddyn arall i benderfynu ar y cyhuddiadau.

Mae teuluoedd y rhai fu farw a goroeswyr wedi disgrifio'r aros hynny fel un "annioddefol". 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.