Newyddion S4C

Meddyg teulu yn croesawu rhaglen frechu newydd wedi i'w fab gael feirws RSV yn faban

03/09/2024

Meddyg teulu yn croesawu rhaglen frechu newydd wedi i'w fab gael feirws RSV yn faban

Roedd Gethin bron yn flwydd oed pan gafodd ei heintio ag RSV.
 
Feirws sy'n debyg iawn i annwyd ond sy'n gallu achosi problemau anadlu difrifol.
 
Mae Gethin bellach yn ei arddegau ac wedi gwella'n llwyr ond roedd y profiad yn un brawychus i'r teulu.
 
"I ddechrau, mae fel annwyd cyffredin.
 
"O'dd ei drwyn yn rhedeg, tymheredd 'da fe a'i fochau'n goch, peswch ond dim byd i feddwl bod e'n fwy difrifol na hynny.
 
"Mae plant yn cael lot o anwydau ac o'n i'n meddwl bod e'n mynd i wella.
 
"Wnaeth e mynd yn fwy sâl yn rili gyflym.
 
"Aeth e mewn i'r ysbyty a mewn am bum diwrnod ac angen ocsigen.
 
"Aeth e'n sâl yn rili gyflym a dyna beth o'dd mwyaf brawychus."
 
Mae RSV yn achosi rhwng 400 a 600 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn ac mae dros 1,000 o fabanod yng Nghymru yn mynd i'r ysbyty gyda'r feirws bob blwyddyn.
 
Mae'r brechlyn ar gael i rai menywod beichiog a phobl rhwng 75 a 79 oed.
 
"Mae rhai pobl yn gallu bod yn sâl ofnadwy.
 
"Does dim triniaeth uniongyrchol ar gael ar gyfer RSV ond mae'n gallu achosi cymhlethdodau fel bronchiolitis mewn plant neu pneumonia mewn oedolion.
 
"Wi'n credu bod pobl wedi clywed am yr achosion yna yn fwy nag am RSV.
 
"Yn anffodus, mae'n gallu achosi marwolaethau.
 
"Felly, mae'r brechlyn gyda ni nawr fydd yn arbed RSV yn y lle cyntaf.
 
"Bydd hyn yn arbed triniaeth mewn ysbyty ac arbed marwolaethau."
 
Gall yr haint fod yn un difrifol ond faint sy 'di clywed amdano?
 
"Ydw, a wedi derbyn llythyr i fynd am y brechlyn wythnos nesaf.
 
"Mae'n dda, dw i'n meddwl, bod y dewis gyda chi.
 
"Dyw e ddim yn orfodol a chi'n cael y dewis i gael e neu beidio."
 
"'Swn i'n cael cynnig hwn, byswn i'n cymryd e.
 
"Ges i un am pneumonia sawl blwyddyn yn ôl.
 
"Ie, unrhyw beth i gadw fi'n saff."
 
Nôl yn ei feddygfa mae'r Dr Huw Williams yn disgwyl cyfnod prysur dros y gaeaf.
 
"Rhwng diwedd mis Hydref a mis Chwefror byddai'n gweld dwsinau o bobl bob dydd gyda symptomau tebyg.
 
"Mae'n chwaer i yn feddyg plant yn Llundain.
 
"'Na'i gyd mae hi'n wneud rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror yw gweld plant gyda RSV."
 
Gyda'r brechlyn newydd bellach ar gael i'r rai o'r mwyaf bregus y gobaith yw y bydd yn lleddfu ar y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn ystod rhai o fisoedd
prysura'r flwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.