Cymru 'y genedl gyntaf yn y DU' i sicrhau prydau am ddim i bob disgybl cynradd
Wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol wedi gwyliau’r haf, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd holl ddisgyblion ysgolion cynradd y wlad bellach yn gallu cael prydau bwyd am ddim.
Serch hynny mae yna bryderon bod plant yn dal i adael yr ysgol eisiau bwyd, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.
O’r wythnos hon ymlaen fe fydd pob plentyn sy’n mynychu ysgol gynradd yng Nghymru yn gymwys i gael pryd o fwyd am ddim.
Ers lansio'r cynllun yn 2021, mae bron i 30 miliwn o brydau bwyd wedi'u darparu, meddai Llywodraeth Cymru.
Gan fod y rhaglen bellach wedi’i chyflawni, fe fydd 176,000 yn fwy o blant yr ysgol hefyd yn cael pryd ysgol am ddim, ychwanegodd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Rwy wedi gweld y gwahaniaeth y mae'r cynnig hwn eisoes wedi'i wneud i blant a theuluoedd yn uniongyrchol.
"Mae hwn yn sicr yn gam pwysig yr ydyn ni wedi'i gymryd i fynd i'r afael â thlodi plant, a byddaf yn parhau i weithio i sicrhau bod gennym ni’r cynnig bwyd ysgol gorau yn y DU."
Ond mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes ei bod yn “hanfodol” bod plant yn derbyn pryd o fwyd am ddim “sy’n eu bodloni” yn dilyn pryderon diweddar am faint y pryd o fwyd y mae disgyblion hŷn yr ysgol yn eu derbyn.
“Fis Mawrth, clywais i yn uniongyrchol gan 490 o blant a phobl ifanc ar draws Cymru trwy holiadur cipolwg ar y mater yma," meddai.
"Dywedodd llawer eu bod nhw dal eisiau bwyd ar ôl bwyta eu cinio ysgol, ac roedd pryderon hefyd gan athrawon am faint y pryd o fwyd y mae plant hŷn yr ysgol yn eu derbyn.
“Dylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen ac adolygu’r canllawiau perthnasol, gan barhau i wrando ar leisiau plant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau bod y cynnig yma yn cyrraedd ei botensial llawn.”
Dywedodd hefyd ei bod yn “gyflawniad arbennig” i roi pryd o fwyd am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru, a bod ei thîm eisoes wedi cwrdd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod ei chanfyddiadau.
'Gwallau'
Yn ôl Gweinidog Addysg Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard AS, nid yw’r prydau o fwyd sydd yn cael eu darparu o safon, ac nid yw wedi’i “synnu” gan hynny chwaith.
“Mae’n gywir bod plant sydd angen prydau ysgol am ddim yn eu cael, ond mae yna wallau yn y modd y mae Llafur wedi cyflawni’r rhaglen," meddai.
Dywedodd fod y Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi nodi nad yw’r blaid Lafur wedi ystyried costau’r cynllun yn iawn.
“Dwi ddim yn synnu bod yna sôn am safon gwael o fwyd a phrydau bwyd bach gan fod cynghorau yn dioddef wedi toriadau Llafur i’r gyllideb,” meddai.
“Mae’r polisi yma wedi cael ei weithredu’n wael gan Lywodraeth Llafur Cymru o’r cychwyn ac yn anffodus, ein pobl ifanc ni sydd yn wynebu talu’r gost.”
Mae gwaith ar y gweill i adolygu’r rheolau sy'n nodi'r mathau o fwyd a diod y gellir eu darparu yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys diffinio cynnwys maethlon prydau ysgol.