O leiaf 12 o fudwyr wedi marw tra'n croesi'r Sianel
O leiaf 12 o fudwyr wedi marw tra'n croesi'r Sianel
Roedd chwech o blant ac un ddynes feichiog ymhlith y 12 o bobl a fu farw wrth geisio croesi'r Sianel fore Mawrth.
Cadnarnhaodd yr awdurdodau yn Ffrainc nos Fawrth bod deg o'r mudwyr sydd wedi marw yn fenywaidd, a dau yn wrywaidd.
Mae nifer wedi eu hanafu ac yn cael triniaeth yn nhref Le Portel, ger Boulougne-sur-Mer ac mae dau arall ar goll.
Yn ôl Olivier Barbarin, uwch swyddog yn y dref honno, fe chwalodd gwaelod y cwch yr oedd y mudwyr yn croesi ynddo.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper, bod y marwolaethau yn “ddychrynllyd” ac yn “drist iawn".
“Mae ein calonnau’n gwaedu dros anwyliaid pawb sydd wedi colli eu bywydau, a phawb sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol," meddai.
Cafodd dros 50 o fudwyr eu hachub a'u cludo i'r lan, medd yr awdurdodau yn Ffrainc, ac mae dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.
Roedd pob un o'r mudwyr yn y dŵr erbyn i'r criwiau achub gyrraedd, ac mae nifer fawr yn cael triniaeth frys.
Daw'r drychineb diweddaraf wrth i fwy o fudwyr gyrraedd Dover yn ne ddwyrain Lloegr ddydd Mawrth ar ôl croesi'r Sianel.
Cyn y drychineb ddydd Mawrth, roedd 30 o bobl eisoes wedi marw wrth geisio croesi'r Sianel yn 2024. Dyma'r ffigwr uchaf ar gyfer unrhyw flwyddyn ers 2021. Y flwyddyn honno cafodd 45 o farwolaethau eu cofnodi.
Llun: PA