Mam a gollodd ei merch yn galw am fwy o gefnogaeth i gleifion canser y gwaed
Mae mam o Gwmbrân a gollodd ei merch i fath o ganser y gwaed wedi galw am fwy o gefnogaeth ar gyfer pobl sydd bellach yn wynebu sefyllfa debyg.
Bu farw merch Donna Dunn, Emily, yn 18 oed yn 2016 yn dilyn brwydr yn erbyn non-Hodgkin lymphoma.
A hithau’n fis codi ymwybyddiaeth am ganser y gwaed, mae Ms Dunn wedi dweud fod yna “dyllau” yn y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser y gwaed.
Daw galwadau’r fam wrth i’r elusen Blood Cancer UK ddweud fod Cymru “ar ei hôl hi” gyda thriniaeth canser y gwaed o gymharu â Lloegr.
Mewn adroddiad ddydd Mercher, mae'r elusen yn dweud bod angen gwella’r gyfradd o ran nifer y bobl sydd yn goroesi canser y gwaed yn y DU. Maent hefyd yn dweud bod angen gwella mynediad pobl sy’n byw gyda'r canser at driniaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn "buddsoddi yn helaeth" mewn gwasanaethau canser.
Dywedodd Donna Dunn: “Fe gollon ni Emily i’r sgil-effeithiau o’i thriniaeth i fynd i’r afael a non-Hodgkin lymphoma. Cafodd Emily driniaeth yng Nghaerdydd ond roedd rhaid iddi gael triniaeth fwy arbenigol.
“Roedd y driniaeth yma dim ond ar gael ym Mryste, ond yn sgil goblygiadau fe aeth hi’n rhy sâl i deithio, ond mi oedd hi dal yn ddigon iach i gael y driniaeth,” esboniodd.
Dywedodd ei bod yn “hollbwysig” gwneud y “mwyaf y gallwn ni” er mwyn gwella’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd â chanser y gwaed – gan gynnwys gwella mynediad at driniaethau all helpu pobl i fyw gyda’r cyflwr.
'Cymru ar ei hôl hi'
Mae yna dros 100 o fathau o ganser y gwaed, gan gynnwys liwcemia, lymphoma a myeloma.
Yn ôl Blood Cancer UK, mae’r DU yn ei chyfanrwydd ar ei hôl hi o ran y gyfradd goroesi pob math o ganser y gwaed o gymharu â “gwledydd cyfoethog tebyg.”
A hithau’n rhan o dasglu elusen Blood Cancer UK, dywedodd Dr Ceri Bygrave bod “diffyg staffio” yn un o’r problemau mwyaf y mae’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ei wynebu.
Dywedodd ei bod yn her yng Nghymru yn benodol oherwydd erbyn 2032, bydd 74% o feddygon arbenigol yn troi’n 60 oed, gyda phrinder staff i gymryd eu lle.
Mae “seilwaith” a “thechnoleg” y gwasanaeth iechyd yng Nghymru “ar ei hôl hi” o gymharu â Lloegr hefyd meddai, a hynny’n peryglu lles cleifion sy’n byw â chanser y gwaed yng Nghymru “yn ddyddiol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r nifer uchaf erioed o staff yn gweithio yn y GIG ac rydym wedi parhau i fuddsoddi yn y gweithlu haematoleg dros y degawd diwethaf.
"Mae hyn yn cynnwys cynnydd o 20% mewn ymgynghorwyr a chynnydd o 56% mewn meddygonarbenigol.
"Rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau canser, o ran offer a chyfleusterau newydd.
"Rydym hefyd wedi gwneud canser yn un o brif flaenoriaethau cynllunio'r GIG ac wedi lansio rhaglengenedlaethol i gefnogi adferiad mewn amseroedd aros canser sy'n cael ei gefnogi gan £2m y flwyddyn am dair blynedd."