‘Calon drom’: Dechrau ymgynghoriad ar gau pedair ysgol yng Ngheredigion
‘Calon drom’: Dechrau ymgynghoriad ar gau pedair ysgol yng Ngheredigion
Bu'n rhaid oedi cyfarfod gan Gyngor Ceredigion a bleidleisiodd dros ymgynghori ar gau pedair ysgol yn y sir wedi i ymgyrchydd iaith dorri ar draws y cyfarfod.
Mae’r cyngor yn ystyried cau Ysgol Craig yr Wylfa, Borth, Ysgol Llanfihangel y Creuddyn ac Ysgol Llangwyryfon, i'r de o Aberystwyth, ac Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd.
Mae grwp ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith wedi gwrthwynebu cau’r ysgolion gan ddweud y byddai yn “tanseilio nifer o gymunedau Cymraeg”.
Cafodd y cyfarfod ei oedi am gyfnod wedi i ymgyrchydd iaith, Ffred Ffransis, dorri ar ei draws. Rhyw bedair awr i mewn i’r cyfarfod, clywyd yr ymgyrchydd yn protestio o’r oriel gyhoeddus.
Pleidleisiodd chwech aelod o’r cabinet o blaid a dau yn erbyn dechrau ymgynghoriad ar gau Ysgol Craig yr Wylfa ac Ysgol Llanfihangel y Creuddyn.
Pleidleisiodd pump o blaid dechrau ymgynghoriad ar gau Ysgol Llangwyryfon ac Ysgol Syr John Rhys a dau yn erbyn. Byddai unrhyw benderfyniad terfynol i gau’r ysgolion yn cael ei wneud gan y cyngor llawn yn dilyn cyfnod o ymgynghori.
Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn ystyried cyfuno ysgolion gyda’i gilydd.
“Mae’r ffigyrau fel chi’n gallu gweld yn ddu a gwyn,” meddai arweinydd y cyngor, Bryan Davies wrth drafod Ysgol Craig yr Wylfa, gan ddweud eu bod nhw’n bwrw ymlaen gyda “chalon drom”.
“Yn bersonol dw i’n teimlo bod dim opsiwn arall. Ond dechrau’r daith yw hyn os ni’n mynd i bleidleisio ar ei gyfer e.”
Mae gan bob un o’r ysgolion bellach lai na 30 o ddisgyblion, gydag 19 yn unig yn Ysgol Llanfihangel y Creuddyn.
Mae un o’r ysgolion, Ysgol Syr John Rhys, hefyd yn wynebu diffyg ariannol o ran gwaith cynnal a chadw o £77,500, meddai swyddogion y cyngor.
Beth fyddai yn digwydd i’r disgyblion?
Mae’r adroddiadau unigol yn awgrymu symud disgyblion Craig yr Wylfa i Ysgol Talybont gerllaw neu i'r ysgolion weithredu fel un ysgol ar ddau safle.
Byddai Ysgol Llanfihangel y Creuddyn ac Ysgol Llangwyryfon naill ai'n ffurfio partneriaeth ag Ysgol Llanilar, neu gallai pob disgybl drosglwyddo i Lanilar.
Gallai disgyblion Ysgol John Rhys drosglwyddo i ysgol arall gyfagos, neu ffurfio ffederasiwn ar y cyd.
Ymateb
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n bwriadu cyflwyno cwyn am adran addysg Cyngor Ceredigion i’r Gweinidog Addysg.
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith cyn y cyfarfod y byddai’r penderfyniad yn “tanseilio nifer o gymunedau Cymraeg a'u gwagio o fywyd ifanc”.
“Mae'r holl broses yn gwbl groes i fersiwn 2018 o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion sy'n gosod rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig,” meddai.
“Mae proses y Cyngor o adolygu'r ysgolion hyn yng nghyd-destun arbedion ariannol yng ngwariant y Cyngor, ac felly'n rhagdyb ymarferol yn erbyn cynnal yr ysgolion.
“Gofynnir i'r ysgolion gyfiawnhau eu bodolaeth er eu bod yn llwyddo'n addysgol.
“Ar ben hynny, mae'r Cod yn datgan yn eglur fod yn rhaid ystyried pob opsiwn arall tra bo cynigion ar gam ffurfiannol - hynny yw cyn gwneud cynnig - ond gofynnir i'r Cabinet awdurdodi ymgynghoriad ffurfiol ar gynnig pendant cyn bod pobl yn codi opsiynau eraill.
“ Petai'r Gweinidog yn caniatáu i'r Cyngor weithredu fel hyn, byddai'r Cod a rhagdyb o blaid ysgolion gwledig yn golygu dim"