Sefydlu'r cynllun cyntaf yng Nghymru i ddychwelyd cwpanau coffi
Bydd cynllun dychwelyd cwpanau coffi yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Bydd y cynllun yn dod i rym ar 4 Hydref ac yn galluogi trigolion y brifddinas i fenthyg cwpan tecawê amldro gan gaffi sy’n rhan o’r fenter, gan ei ddychwelyd fel bod modd ei olchi a’i ddefnyddio eto dro ar ôl dro.
Grŵp Caerdydd AM BYTH sy'n gyfrifol am y fenter, ar ôl derbyn cymorth ariannol o £90,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Er mwyn rhoi’r cynllun ar waith, mae Caerdydd AM BYTH yn gweithio mewn partneriaeth â’r elusen amgylcheddol City to Sea. Bydd ap ar gael a fydd yn galluogi ymwelwyr a thrigolion Caerdydd i chwilio’n rhwydd am leoliadau ar gyfer casglu a danfon eu cwpanau amldro.
Bydd cyfnod peilot y cynllun ar waith tan ddiwedd mis Mawrth 2025, a’r nod yw lleihau gwastraff a mynd i’r afael â llygredd a sbwriel ledled y ddinas.
Bydd effaith y cynllun yn cael ei mesur a’i gwerthuso gan Ysgol Fusnes Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ysgol Fusnes Greenwich ym Mhrifysgol Greenwich.
Mae’r caffis a’r siopau coffi sydd wedi ymuno â’r cynllun wedi ymrwymo i roi gostyngiad o 15c fan leiaf ar bris coffi i bwy bynnag sy’n defnyddio cynllun Dychwelyd Cwpanau ‘Ail-lenwi’ Caerdydd.
Bydd nifer o gaffis a siopau coffi ledled y ddinas yn ymuno â’r cynllun a byddant yn cael stôr o gwpanau amldro.
Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH, “Rydym yn hollol hyderus y bydd trigolion Caerdydd yn cefnogi’r cynllun ac y byddant yn ein helpu i atal hyd at 30,000 o gwpanau untro rhag cael eu defnyddio.”
Bydd y cwsmer yn lawrlwytho’r ap ail-lenwi ac yn cofrestru manylion ei gerdyn yn barod ar gyfer defnyddio un o gwpanau’r cynllun.
Pan fydd y cwsmer yn prynu coffi, bydd y siop goffi yn defnyddio’r ap i sganio cod QR ar un o gwpanau’r cynllun, a bydd y cwsmer yn ‘berchen’ ar y cwpan hwnnw dros dro.
Bydd yr ap yn atgoffa’r cwsmer pryd i ddychwelyd y cwpan, ac i ble. Os caiff y cwpan ei ddychwelyd o fewn pythefnos, ni chaiff tâl ei godi ar y cwsmer am ddefnyddio’r cynllun.
Ar ôl i’r cwsmer ddychwelyd y cwpan, bydd y manwerthwr yn ei sganio, yn ei olchi, fel y gall cwsmer arall ei ailddefnyddio.