Menyw sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab 'hefyd wedi ceisio lladd ei thad'
Mae llys wedi clywed honiad bod menyw sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab chwech oed yn Abertawe hefyd wedi ceisio llofruddio ei thad yr un diwrnod.
Fe wnaeth Karolina Zurawska, o Gendros, Abertawe, ymddangos o flaen Llys y Goron y ddinas fore Mawrth.
Maeâr fenyw 41 oed wediâi chyhuddo o lofruddio Alexander Zurawski, a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn eiddo yng Nghlos Cwm Du, Gendros, ddydd Iau 29 Awst.
Mae Zurawska hefyd wediâi chyhuddo o geisio llofruddio ei thad, Krzysztof Siwi, 67, yn gynharach yr un diwrnod.
Yn ystod gwrandawiad byr, siaradodd Zurawska i gadarnhau ei henw yn unig ac a oedd hiân gallu clywed yr achos.
Ni wnaeth y diffynnydd, a ymddangosodd trwy gyswllt fideo o'r carchar, bledio i'r ddau gyhuddiad yn ei herbyn.
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas wrth y llys: âBydd yr achos llys ar Chwefror 17.
âBydd rhaid iâr diffynnydd aros yn y ddalfa.â
Ymddangosodd Michael Jones ar ran yr erlyniad, tra bod Robin Rouch yn cynrychioli'r diffynnydd.
Mae disgwyl iâr achos llys ar Chwefror 17 barhau rhwng wythnos a phythefnos.
âBachgen hynod annwyl a phoblogaiddâ
Mae teulu Alexander a phennaeth Ysgol Gynradd Whitestone wedi rhoi teyrnged iddo.
Dywedodd ei deulu mewn teyrnged: âRoedd Alexander yn blentyn caredig iawn. Roedd wrth ei fodd yn chwarae gydaâi chwaer fach ac yn chwarae gydaâi gi, Daisy.
âRoedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg.
âRoedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.
âRoedd Alexander bob amser yn barod i helpu, bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau."
Ychwanegodd y deyrnged: âRoedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddaiân aml yn cywiro ei rieni gydaâu Saesneg os oedden nhwân cael geiriauân anghywir.
âRoedd yn anhygoel.â
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y teulu wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon. Fe wnaeth y teulu hefyd fynegi eu diolch iâr gwasanaethau brys.
Dywedodd Bethan Peterson, Pennaeth Ysgol Gynradd Whitestone: âRydym wedi ein syfrdanu o glywed am farwolaeth drasig Alexander.
âRoedd Alexander yn fachgen bach hoffus, penderfynol ac roedd ei agwedd bositif aâi ddycnwch yn sicrhau ei fod yn llwyddo ym mhopeth yr oedd yn ei wneud.
âRoedd yn fachgen hynod annwyl a phoblogaidd ymhlith ei gyfoedion, staff a phawb oedd yn ei adnabod. Bydd colled fawr ar ei Ă´l."
âSiocâ
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Chris Truscott, rheolwr rhanbarthol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ddydd Sul bod y digwyddiad wedi bod yn "sioc aruthrol iâr gymuned leol."
âMaeâr gymuned leol wedi bod yn rhagorol wrth ein cefnogi gyda'n hymchwiliad, a hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu hamynedd yn ystod cyfnod trawmatig.
âBydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal leol dros y dyddiau nesaf er mwyn rhoi cyngor a sicrwydd.
âMae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Alexander ar yr amser anodd hwn.â
Llun: Alexander Zurawski (Heddlu De Cymru)