Newyddion S4C

Un wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro

03/09/2024
A4139

Mae un person wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro

Mae un arall yn yr ysbyty ag anafiadau sydd ddim yn peryglu ei fywyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 22.15 ddydd Llun ar yr  A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun.

Roedd Volkswagen lliw arian a BMW brown yn rhan o’r gwrthdrawiad.

Mae teulu'r person a fu farw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys ar-lein neu ar rif 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 405.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.