Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Maentwrog yng Ngwynedd
Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Penrhyndeudraeth.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad o wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A487 yn ardal Tan-y-bwlch, Maentwrog ychydig cyn 10.20 ar ddydd Mawrth, 13 Awst.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Fiat Abarth a lori HGV.
Cafodd gyrrwr y Fiat ei chludo mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol i Ysbyty Brenhinol Stoke.
Bu farw'r ddynes oedd yn ei 60au ar ddydd Gwener, 30 Awst.
Cafodd ci, oedd hefyd yn teithio yn y car ei anafu, ond mae wedi gwella erbyn hyn.
Mae'r Crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Katie Davies o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu’r ddynes ar yr amser hynod anodd hwn.
“Rwy’n gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ac sydd eto i siarad â ni, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A487 cyn y gwrthdrawiad ac a allai fod â lluniau camera dashcam i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â ni.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo'r heddlu gysylltu â swyddogion yr Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 24000703890.