Etholaethau newydd y Senedd: Pam eu bod nhw mor fawr, a sut fyddwn ni’n dewis ein cynrychiolwyr?
Y peth cyntaf fyddwch chi’n ei sylwi am etholaethau newydd y Senedd ar gyfer etholiad 2026 ydi bod nifer ohonyn nhw yn anferth.
Er enghraifft, mae etholaeth newydd Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr yn ymestyn o Ben Llŷn hyd at y ffin rhwng Sir Drefaldwyn a Maesyfed.
Yn ôl Google Maps fe fyddai yn cymryd dwy awr a hanner i gwblhau’r daith o Aberdaron ar ben gorllewinol yr etholaeth at y Drenewydd ym Mhowys ar ei ffin ddeheuol.
Felly beth sy’n gyfrifol am yr etholaethau newydd hyn a pam eu bod nhw mor fawr?
Fe fydden nhw’n disodli system sydd wedi bod mewn lle ar gyfer ethol aelodau o Senedd Cymru ers dechrau datganoli yng Nghymru yn 1999.
Dan yr hen drefn a ddefnyddiwyd ddiwethaf yn etholiad Senedd 2021 roedden ni’n ethol un gwleidydd i’n cynrychioli yn ein hetholaeth leol (oedd yr un maint a siâp ag etholaeth San Steffan).
Roedd 40 o’r rhain.
Yna roedd pedwar aelod arall yn cael eu hethol i’n cynrychioli ar lefel rhanbarthol. Roedd y rhanbarthau yn llawer mwy, ac roedd pump ohonyn nhw.
Dyma'r hen fap:
Mae nifer o wleidyddion amlwg yn rhai rhanbarthol. Er enghraifft mae’r Prif Weinidog presennol Eluned Morgan yn aelod dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Bydd y drefn newydd yn cael gwared â’r hen etholaethau a’r rhanbarthau yn llwyr. Yn hytrach na 40 etholaeth a phum rhanbarth fe fydd yna 16 o etholaethau mwy.
Bydd y rhain yn seiliedig ar etholaethau newydd etholiadau San Steffan a gafodd eu defnyddio yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin.
Roedd yr etholaethau yma eisoes dipyn yn fwy na’r rhai blaenorol oherwydd bod nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru wedi eu cwtogi o 40 i 32 ar sail poblogaeth.
Ond mae Senedd Cymru yn symud yn y cyfeiriad arall. Mae’r Senedd wedi pleidleisio dros gynyddu nifer y gwleidyddion - o 60 i 96.
Y ddadl dros hynny oedd bod Senedd Cymru yn llawer llai na senedd-dai eraill ac wrth i rymoedd Llywodraeth Cymru gynyddu mae angen mwy o wleidyddion i gyfrannu a chadw llygad arnyn nhw.
Mae’r Ceidwadwyr wedi dadlau bod rhagor o wleidyddion yn wastraff arian.
Felly dyma'r map newydd arfaethedig:
Dewis
Gyda’r newid o 60 i 96 o wleidyddion mae angen system newydd i’w hethol nhw. Y datrysiad oedd 16 etholaeth a bob un yn ethol chwe aelod i’r Senedd.
Yn wahanol i’r hen etholaethau, ond yn debycach i’r rhanbarthau blaenorol, bydd y gwleidyddion yma i gyd yn cael eu hethol drwy yr hyn a elwir yn 'system gynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig'.
Beth yw peth felly? Dyma lle mae pethau’n mynd ychydig yn gymhleth.
Mae hwn yn fath o system etholiadol lle mae pob plaid yn cyflwyno rhestr o'u hymgeiswyr ar gyfer etholaethau.
Mae'r pleidleisiwr yna yn pleidleisio dros restr y blaid yn hytrach nag un ymgeisydd penodol.
Beth mae hynny’n ei olygu yw y bydd gan bob un sy’n pleidleisio un bleidlais yn eu hetholaeth ond bydd chwech o wleidyddion yn cael eu dewis ar sail pleidleisiau pawb.
Unwaith mae pleidleisiau pawb i mewn mae pwy sy’n cael y chwe sedd mewn etholaeth yna’n cael eu dyrannu yn gymesur rhwng y pleidiau gwahanol ar sail fformiwla fathemategol.
Er enghraifft, tasai Llafur yn ennill traean o’r bleidlais, Plaid Cymru yn cael traean a’r Ceidwadwyr yn cael traean, fe fyddai disgwyl cael 2 aelod Llafur, 2 Plaid Cymru a 2 o’r Ceidwadwyr yn cynrychioli yr etholaeth.
Yn ymarferol wrth gwrs mae pethau’n llawer mwy cymhleth na hynny.
Mae yna ardaloedd lle mae cefnogaeth y pleidiau gwahanol yn uwch a’n is a nifer o bleidiau llai yng Nghymru gan gynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol, Reform a’r Blaid Werdd hefyd yn gobeithio bachu seddi yma a thraw dan y system newydd.
Mae’n werth nodi i orffen mai dechrau ymgynghoriad pedwar wythnos gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yw’r etholaethau newydd.
Mae’n bosib y bydde nhw’n newid eto ar sail ymateb y cyhoedd, gwleidyddion a grwpiau eraill.
Ond mae dwylo Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi eu clymu i raddau - y nhw sydd biau’r dewis o ba etholaethau San Steffan i’w cyfuno ond dydyn nhw ddim yn cael newid eu ffiniau nhw.
Hefyd mae’n rhaid i’r etholaethau fod yn gysylltiedig â’i gilydd. Roedd rhaid paru Ynys Môn a Bangor Aberconwy, er enghraifft, am nad oedd cysylltiad ffordd rhwng Ynys Môn â’r un etholaeth arall.
Felly beth bynnag yw’r newidiadau mae’r etholaethau anferth yma i aros.