Adolygiad i farwolaeth y brifathrawes Ruth Perry yn gweld bai ar Ofsted
Roedd ymateb Ofsted i hunanladdiad prifathrawes wedi arolwg ysgol yn "amddiffynnol a hunanfodlon".
Dyna gasgliad adolygiad gafodd ei gomisiynu ar ôl i gwest ddweud bod arolwg beirniadol Ofsted wedi "cyfrannu" at farwolaeth Ruth Perry.
Mae Prif Arolygydd y corff, Syr Martyn Oliver wedi derbyn mwyafrif y casgliadau.
Ddydd Llun fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddan nhw yn hepgor y disgrifiad un gair ar gyfer arolygu ysgolion Lloegr. O hyn ymlaen, ni fydd ysgolion yn cael eu categoreiddio fel rhai Rhagorol, Da, Angen Gwelliant neu Annigonol.
Fe wnaeth Ruth Perry ladd ei hun ym mis Ionawr 2023 ar ôl cael gwybod y byddai'r ysgol lle'r oedd hi'n brifathrawes yn cael ei ddisgrifio fel un 'Annigonol'.
Mae'r adolygiad gan y Fonesig Christine Gilbert yn dweud na wnaeth Ofsted unrhyw ymgais i gysylltu gyda'r ysgol na theulu Mrs Perry yn y misoedd wedyn.
'Dim o'i le'
Yn ogystal mae'n dweud bod y datganiad wnaeth yr arolygwyr gyhoeddi ym mis Mawrth yn "awgrymu bod gan Ofsted fawr ddim i ddysgu o'r drasiedi". Roedd Ofsted wedi rhoi'r argraff "nad oedden nhw wedi gwneud dim o'i le" meddai'r adolygiad.
Ymhlith yr argymhellion mae hyfforddi staff i gyfathrebu yn well gydag ysgolion a staff mewn sefyllfaoedd o argyfwng a hybu diwylliant mwy agored yn y corff.
Dywedodd y Fonesig Gilbert hefyd bod angen ehangu ar yr hyfforddiant ar gyfer arolygwyr i weld yr arwyddion pryd mae staff mewn ysgolion yn bryderus neu yn drallodus.
Mae Ofsted wedi cyhoeddi ymchwil sydd yn dangos bod rhieni yn Lloegr yn cefnogi'r arolygiadau a'u bod yn ffactor bwysig wrth benderfynu pa ysgol i anfon eu plant.
'Cydbwysedd' cywir
Mae Syr Martyn Oliver wedi dweud bod Ofsted wedi gwneud "lot o waith da" ond bod yr ymchwil yn dangos "beirniadaeth" hefyd.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau'r pwysau diangen ar y bobl broffesiynol rydyn ni yn gweithio gyda nhw," meddai.
"Ond mi fyddwn ni yn parhau i fod yn agored am gyflwr y diwydiant rydyn ni yn arolygu ac yn dweud os oes yna arferion gwael a safonau isel sydd ddim yn dderbyniol i blant ag addysgwyr a hynny heb ofn na bod yn gymwynasgar. Dyna'r cydbwysedd mae angen ac y bydd rhaid i ni gael."
Rhai o'r newidiadau mae Ofsted wedi dweud y byddan nhw yn gwneud yw oedi cyhoeddi adroddiad wedi arolygiad os oes yna bryderon diogelwch plant, fframwaith arolygu newydd a chanolbwyntio fwy ar sut mae ysgolion yn cwrdd ag anghenion plant bregus neu dan anfantais.
Mae gan Gymru gorff arolygu ysgolion a lleoliadau addysgiadol ei hun sef Estyn.