Taclo lladradau ffôn ar ôl i'r nifer ddyblu
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddant yn rhoi mesurau yn eu lle i daclo lladradau ffôn ar ôl i ffigyrau ddangos bod y drosedd wedi mwy na dyblu yng Nghymru a Lloegr dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae ffigyrau'r Llywodraeth yn dangos hyd at fis Mawrth bod 78,000 o bobl wedi cael eu ffonau neu eu bagiau wedi eu dwyn - 31,000 oedd y ffigwr y llynedd.
Er mwyn taclo'r broblem bydd cwmnïau ffôn yn cael eu galw i gynhadledd er mwyn "edrych am ffyrdd arloesol i daclo'r farchnad anghyfreithlon".
Bwriad y Llywodraeth yw adeiladu ar yr hyn sydd wedi ei gyflwyno yn barod mewn rhai ffonau i geisio atal lladrad.
Maent hefyd eisiau gwneud yn siŵr na fydd modd gwerthu'r ffôn eto os yw wedi ei ddwyn. Bydd yna ofyn ar i benaethiaid heddlu i gasglu mwy o dystiolaeth i weld pwy sydd yn dwyn ffonau a beth sydd yn digwydd i'r ffonau wedyn.
Dywedodd y Gweinidog Heddlu, y Fonesig Diana Johnson bod y Llywodraeth yn "benderfynol o daclo lladradau cipio".
"Mae'n rhaid i gwmnïau ffôn sicrhau bod unrhyw ffonau sydd yn cael eu dwyn yn cael eu diffodd yn barhaol fel nad oes modd eu defnyddio eto, yn hytrach na chael eu hail-gofrestru er mwyn eu gwerthu ar y farchnad ail-law," meddai.
"Fe fyddwn ni yn cwrdd â nhw yn fuan i drafod pa gamau pellach sydd angen eu gwneud er mwyn gwneud yn siŵr bod hyn yn digwydd."