Newyddion S4C

Sioe Llanddarog: Arestio person wedi honiadau o ddwyn

02/09/2024
Heddlu

Mae person wedi ei arestio ar amheuaeth o ddwyn mewn cysylltiad â honiadau o anghysonderau ariannol oddi mewn i Gymdeithas Sioe Amaethyddol Llanddarog yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae'r person wedi ei ryddhau ar fechniaeth wrth i'w hymholiadau barhau. 

Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi fis Ebrill ar wefan Sioe Llanddarog, mae’r gymdeithas amaethyddol yn dweud bod "is-bwyllgor penodedig o aelodau’r gymdeithas wedi cynnal ymchwiliad i reolaeth ariannol y gymdeithas."

"Mae'r pwyllgor yn gweithio gyda’r swyddogion i sicrhau bod sioe 2024 yn ddigwyddiad llwyddiannus i'r gymuned gyfan".

Cafodd Sioe Llanddarog ei chynnal fel arfer fis Mehefin eleni.    

Roedd y datganiad gan swyddogion y sioe yn nodi fod y Comisiwn Elusennau a Heddlu Dyfed-Powys bellach yn delio â’r mater.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.