'Ewch â fi i'r eglwys ar y rhif 49': Priodferch yn cyrraedd ei phriodas ar fws
Ar ôl tipyn o waith ymholi a sawl apêl, llwyddodd defnyddiwr cadair olwyn o Gaerdydd i gyrraedd ei phriodas ar fws.
Mae gan Sarah Tunnicliffe gyflwr dystroffi'r cyhyrau.
Siaradodd ag ITV Cymru ym mis Gorffennaf am yr heriau wrth ddod o hyd i gerbyd a oedd â lle i'w chadair olwyn. Gydag ychydig iawn o opsiynau, penderfynodd Sarah mai trafnidiaeth gyhoeddus oedd y dewis gorau i gyrraedd ei phriodas.
Ar ôl rhannu ei stori, cysylltodd bobol â Sarah o lefydd ar hyd a lled y DU.
"Cawsom gynigion gwych dros y ffin yn Lloegr a’r Alban", meddai Sarah, "Rydw i eisiau dweud diolch yn fawr iawn i bawb a helpodd".
Ond roedd un cyfle na allai hi ei wrthod, sef cynnig gan gwmni Bws Caerdydd i'w hebrwng ar wasanaeth preifat i'r briodas.
"Mae'n fws preifat, yn ddi-stop i'r lleoliad", meddai, "roeddwn i'n meddwl y byddai'n stori wych i'w hadrodd hefyd. Mae'n ffordd anarferol - mae'n unigryw".
Dywedodd Sarah fod ochr fwy difrifol i'w stori a'i thaith i'r eglwys. Mae ychydig dros draean o bobl anabl Cymru yn briod, ond yn ôl ymgyrchwyr dyw heriau Sarah ddim yn rhai newydd.
"Mae angen tynnu sylw at y ffaith nad oes gwasanaethau hygyrch ar gael yng Nghaerdydd", meddai.
"Roedd yn edrych yn wallgof i gael cerbyd i yrru 105 milltir i gyrraedd yma i fynd â fi a fy nghymar i lawr y ffordd - taith 10 munud. Doeddwn i ddim yn gallu ei dderbyn!"
Rhwystrau
Yn ôl Alex Harrison, Swyddog Cydraddoldeb Anabledd Cymru, mae pobl anabl yn aml yn gorfod mynd heb foethusrwydd ar ddiwrnod eu priodas, ac yn wynebu sawl rhwystr o ganlyniad.
"Rydyn ni'n ei weld yn gyson. Mae trefnu priodas yn ddigon o straen heb yr holl rwystrau ychwanegol hyn. Rwy’n meddwl bod angen mwy o ddealltwriaeth ac rwy’n meddwl bod angen i gyflenwyr a’r diwydiant priodasau, yn ei gyfanrwydd, sylweddoli bod pobl anabl yn hoffi priodi hefyd."
Ond ar ôl cyrraedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, roedd Sarah a’i gŵr Jamie, yn awyddus i fwynhau eu diwrnod arbennig.
"Rydw i'n mynd i fwynhau pob munud ohono," meddai Sarah. “Rwy’n teimlo’n hollol anhygoel - mae’r diwrnod wedi bod yn hollol wych.
"Roedd y daith ar y bws i gyrraedd yma yn anhygoel - mae'r cyfan yn y cynllunio!"