Cynnig i gyfuno Bangor, Aberconwy ac Ynys Môn yn un etholaeth Seneddol
Fe allai Bangor, Aberconwy ac Ynys Môn ddod yn un etholaeth fel rhan o gynllun ar gyfer creu ffiniau newydd i etholaethau Senedd Cymru.
Fe wnaeth Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru rannu ei syniadau cychwynnol ar gyfer etholaethau newydd ddydd Mawrth. Bydd ymgynghoriad pedair wythnos i gasglu barn y cyhoedd am yr awgrymiadau yn cael ei gynnal drwy fis Medi.
Mae'r cynnig i gynnwys Bangor, Aberconwy ac Ynys Môn yn un etholaeth ymysg y cynigion am 16 o etholaethau newydd allai ddisodli’r 40 etholaeth a phum rhanbarth presennol.
Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, byddai'r etholaethau newydd yn dod i rym yn awtomatig yn etholiad y Senedd yn 2026, a byddai chwech AS yn cael eu hethol o bob etholaeth newydd.
Byddai hyn yn creu 96 Aelod o'r Senedd i gyd felly.
Bydd yr aelodau yn cael eu dewis trwy gynrychiolaeth gyfrannol, sydd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer rhestrau rhanbarthol y Senedd yn unig.
Dyma'r 16 etholaeth sydd wedi eu cynnig gan y Comisiwn:
- Bangor, Aberconwy ac Ynys Môn
- Clwyd
- Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam
- Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr
- Ceredigion a Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
- Gorllewin Abertawe a Gŵyr
- Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe
- Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr
- Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd
- Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili
- Sir Fynwy a Thorfaen
- Casnewydd ac Islwyn
- Dwyrain a Gogledd Caerdydd
- Gorllewin Caerdydd, De a Phenarth
- Bro Morgannwg a Phen-y-bont
Dywedodd y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru bod angen iddynt greu'r etholaethau drwy baru 32 etholaeth seneddol y DU yng Nghymru "gan sicrhau bod pob etholaeth yn ffinio â’r un y mae wedi’i pharu â hi."
Sut penderfynwyd ar y ffiniau newydd?
Wrth benderfynu ar yr etholaethau newydd dywedodd y Comisiwn eu bod nhw yn ystyried y modd o deithio trwyddynt.
Er enghraifft, nid oedd y Comisiwn wedi ystyried Ynys Môn a Dwyfor Meirionnydd fel un etholaeth gan nad oes modd teithio o un i'r llall ar y ffordd heb orfod mynd i mewn i Fangor Aberconwy.
Roedden nhw hefyd yn ystyried cysylltiadau lleol fel hanes ardal a'r Gymraeg wrth osod yr etholaethau.
Mae'r Comisiwn wedi agor ymgynghoriad pedair wythnos er mwyn derbyn adborth a chlywed barn pobl ledled Cymru am yr etholaethau a'u henwau.
"Pobl leol sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar yr enwau ar gyfer eu hardal ac mae'r Comisiwn yn parhau i fod yn agored iawn i ddiwygio'r enwau arfaethedig yn ogystal â'r parau arfaethedig," medden nhw.
Daw’r cyfnod ymgynghori cychwynnol i ben ar 30 Medi, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad ar y cynigion ym mis Rhagfyr 2024.
Bydd cyfnod ymgynghori arall o bedair wythnos yn rhedeg i Ionawr 2025 hefyd.
Mae disgwyl i'r etholaethau terfynol gael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2025.
'Cam pwysig'
Mae Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE yn annog pobl i leisio'u barn yn yr ymgynghoriad.
“Mae heddiw yn gam pwysig iawn yn y daith tuag at ddiwygio’r Senedd.
“Yn etholiad 2026, bydd ein senedd genedlaethol yn cael ei hethol gan ddefnyddio system hollol newydd, gydag etholaethau cwbl newydd."
Ychwanegodd: “Mae’r Comisiwn yn hyderus bod ein cynigion cychwynnol yn gam cyntaf da iawn i greu 16 o etholaethau Senedd newydd Cymru, ond gwyddom o brofiad bod y prosesau hyn bob amser yn cael eu cryfhau pan fyddwn yn clywed gan y cyhoedd.
“Felly rydym yn annog pawb yn gryf i rannu eu barn gyda ni, boed yn cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cynigion, fel y gallwn fynd ymlaen i gryfhau’r map ymhellach cyn yr etholiad nesaf.”