Newyddion S4C

Y Gymraeg yn mynd ar goll ers i Twitter troi i X

02/09/2024

Y Gymraeg yn mynd ar goll ers i Twitter troi i X

X neu Twitter gynt, ymadrodd y clywn yn gyson erbyn hyn. Ers 2006, dyma blatfform sy 'di bod yn flaenllaw yn y byd digidol.

Yma, mae enwogion, cwmniau a gwleidyddion yn dweud eu dweud. Ac mae pawb yn rhyddi gael cyfrif, ond mae teimlad ymhlith rhai nad dyma'r ap iddyn nhw bellach.

"Dyw e ddim fel Twitter fel oedd e. Mae lot o gynnwys ffug, gwybodaeth a newyddion ffug. Mae'r asgell dde yn cael fwy o rwydd hynt i weud fel y mynnen nhw.

“Mae cyfrifon ga'th eu gwahardd gan Twitter mae Elon Musk, trwy X, wedi caniatau nhw nôl ar y platfform.

"Bellach, gall unrhyw un gael y tic bach glas am $8 y mis a does dim gwarantu pwy y'n nhw."

Yn ôl un sy'n rhedeg cyfrif i hyrwyddo cynnwys Cymraeg ar-lein mae 'na boeni ynglŷn â lle mae'r cynnwys yn cyrraedd.

"Ar un adeg, o'dd e'n cyrraedd cannoedd o filoedd o gyfrifon. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae'r lefel o ymwneud a rhannu ar negeseuon Yr Awr Gymraeg, ond negeseuon yn y Gymraeg yn gyffredinol wedi gostwng.

"Mae'r ffaith bod yr un fath o gynnwys yn y Gymraeg ddim yn perfformio cystal yn rhoi'r argraff bod mwy tu ôl i hwn.

"Dyw e ddim yn sinistr ond maen nhw am wthio negeseuon sy'n boblogaidd.

"Felly, maen nhw'n blaenoriaethu ieithoedd poblogaidd fel Saesneg."

Mae Heddlu Gogledd Cymru 'di penderfynu i ddileu eu cyfrif X.

"For us as an organisation it doesn't sit any more in the same values that we have.

"Sometimes, it doesn't portray the correct information to communities. That causes issues.

"I think it doesn't reach our Welsh-speaking communities as readily as it does others so it's the right decision for us."

Ers tipyn, mae'r ap yma wedi bod yn rhan ganolog o fywydau nifer a chanddo dros 250 miliwn o ddefnyddwyr dyddiol.

Mae nifer yn gadael yr ap oherwydd lledaeniad cam-wybodaeth gydag Aelodau Seneddol ymhlith y rheiny sy'n rhoi'r gorau i X.

Ers i'r biliwnydd, Elon Musk brynu'r safle am $44 biliwn mae ei gyfraniadau cyson, dadleuol yn golygu bod nifer wedi troi eu cefnau ar y cyfrwng.

Yn ôl un sy'n gweithio ym maes marchnata digidol, sy’n rhedeg rhai o gyfrifon enwogion a chwmniau yng Nghymru mae apêl gwefannau eraill hefyd yn chwarae rhan.

"Mae X neu Twitter yn gynt, wedi disgyn lawr y rhestr priority. Mae Facebook, Instagram a TikTok ydy'r top three i ddefnyddio."

Gofynnwn ni i X am ymateb ond chlywon ni ddim nôl.

Am y tro, o leiaf, parhau i drydar eu gwrthwynebiad i X wneith rhai a gadael nyth Twitter gynt.

Un peth sy'n sicr, mae 'na newid ar droed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.