Newyddion S4C

Bangor: Gyrrwr lori yn taro car a bron a tharo teulu tra’i fod ar ei ffôn

ITV Cymru 02/09/2024

Bangor: Gyrrwr lori yn taro car a bron a tharo teulu tra’i fod ar ei ffôn

Mae gyrrwr lori oedd yn edrych ar ei ffôn symudol cyn taro car wedi cael dedfryd o garchar wedi'i gohirio am 8 mis. 

Roedd Raymod Catterall, 44 mlwydd oed o Lannau Mersi yn gyrru ar hyd y A55 yn agos i Fangor pan darodd ei lori 7.5 tunnell i mewn i gar oedd wedi torri i lawr fis Mai diwethaf. 

Yn yr eiliadau cyn y ddamwain, mae lluniau o gaban y lori yn dangos bod Catterall yn edrych ar ei ffôn dro ar ôl tro.

Mae'r lluniau Dashcam hefyd yn dangos ei fod wedi osgoi teulu o drwch blewyn wrth i'w lori wyro i'r ymyl.

Plediodd Catterall yn euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus a defnyddio ffôn symudol wrth y llyw.

Rhoddodd barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddedfryd o 8 mis o garchar iddo, wedi'i gohirio am 18 mis. Gorchmynodd Catterall i wneud 150 awr o waith di-dâl a gwisgo tag yn ystod cyrffyw. 

Mae wedi cael ei wahardd rhag gyrru am flwyddyn a rhaid iddo basio ail brawf gyrru estynedig.

Llun: Gwasanaeth Erlyn y Goron

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.