Newyddion S4C

'Ffrind i bawb': Clwb rygbi yn Sir Benfro yn codi dros £36,000 er cof am chwaraewr

02/09/2024
Marc Beasley

Mae clwb rygbi yn Sir Benfro wedi codi dros £36,000 er cof am chwaraewr a fu farw eleni.

Fe wnaeth Clwb Rygbi Crymych gynnal gêm arbennig ar ddydd Sul 25 Awst i gofio am Marc Beasley a fu farw yn 37 oed ar 15 Mawrth.

Roedd yn chwaraewr rygbi brwd ac yn aelod o Glwb Rygbi Crymych ers ei ddyddiau yn yr ysgol.

Roedd dros 750 o bobl yn y digwyddiad ym Mharc Lloyd Thomas yng Nghrymych, gan godi £36,500 at Gronfa Marc Beasley. 

Cafodd y gronfa ei sefydlu'n wreiddiol i ariannu archwiliadau sgrinio’r galon i chwaraewyr y clwb rygbi.

Ond dywedodd y clwb fod y gronfa wedi tyfu "mor sylweddol" eu bod nhw'n ehangu’r cynnig i’r gymuned ehangach.

Fel rhan o'r digwyddiad, roedd 50 o ddynion yn chwarae i dîm Bois Beasley, gan gynnwys chwaraewyr presennol y clwb a rhai o'r gorffennol. 

Roedd pob chwaraewr yn gwisgo crys glas arbennig, a oedd yn symbol o gyfnod Mr Beasley gyda'r tîm ieuenctid, er mwyn wynebu tîm y Teirw.

'Ffrind i bawb'

Dywedodd Carwyn Rees, un o drefnwyr y digwyddiad, fod y clwb mewn "sioc" yn dilyn ei farwolaeth.

"Roedd Marc yn biler go iawn i’n clwb - roedd yn ymroddedig, yn angerddol, ac roedd ganddo wên ar ei wyneb bob amser," meddai.

"Nid dim ond chwaraewr rygbi oedd e; roedd yn ffrind i bawb, ac roedd ei golled yn ein taro ni i gyd yn galed iawn."

Ychwanegodd: “Roeddem i gyd mewn sioc pan glywsom y newyddion, yn enwedig o ystyried pa mor heini ac iach oedd Marc. 

"Roedd y clwb yn gwybod ar unwaith bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i'w anrhydeddu, a dyna sut daeth y gêm hon at ei gilydd."

Dywedodd chwaer Mr Beasley, Heulwen Beasley-Park, y byddai wedi bod "wrth ei fodd" gyda'r ymdrech.

"Byddai Marc wedi bod wrth ei fodd yn gweld ei holl ffrindiau a'r gymuned yn dod at ei gilydd am achos mor dda," meddai.

"Hyfryd oedd gweld cymaint o ffrindiau Marc yn cymryd rhan yn y gêm."

Ychwanegodd ei bod yn ddiolchgar am "gyfraniadau hael" aelodau o'r gymuned.

"Roedd yn galonogol gweld y gymuned mor barod i roi at achos mor deilwng," meddai.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb a helpodd i drefnu’r diwrnod byddai Marc wedi bod wrth ei fodd gyda'r holl weithgareddau a chwaraeon. 

"Roedd yn golygu cymaint i ni fel teulu, a'n atgof byddwn ni'n trysori am byth."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.