Newyddion S4C

'Mae rhywun angen mynd i'r Premier League - pam ddim fi?' Uchelgais llanc o Gaerdydd

Hansh 03/09/2024
Iwan Morgan

Yn chwarae i dîm pêl-droed Brentford B ar hyn o bryd, mae gan Iwan Morgan un uchelgais, sef chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr. 

Wedi ei fagu yng Nghaerdydd, dechreuodd ei yrfa yn yr academi yng Nghlwb Pêl-droed Caerdydd cyn symud i chwarae i Abertawe, ac mae’n chwaraewr rhyngwladol i dîm ieuenctid Cymru. 

Mae rhaglen ddogfen newydd ar S4C wedi bod yn dilyn y chwaraewr pêl-droed proffesiynol, sy'n gobeithio cyrraedd y brig.  

Mae Iwan bellach yn cael ei gynrychioli gan yr asiantaeth bêl-droed adnabyddus Stellar, sydd hefyd yn cynrychioli Gareth Bale a Jack Grealish.

Mae'r rhaglen Iwan Morgan: Un Gôl yn cynnig cip olwg ar fywyd y llanc 18 oed yn Brentford - ei lety, y cae ymarfer, yr ystafell addysgu a ble mae’n ymlacio gyda'i gyd-chwaraewyr – yn ogystal â'i deulu a'i fagwraeth. 

Ar ôl arwyddo i Brentford yn ifanc, symudodd Iwan o’i gartref yng Nghaerdydd i Lundain. Gyda'i gyd-chwaraewyr hefyd mewn sefyllfaoedd tebyg, mae cyfeillgarwch agos yn cael ei ffurfio.

Beckham 

Un o'r cyd-chwaraewyr hynny yw Romeo Beckham. Ac mae ei dad, David Beckham yn ymddangos ar y rhaglen wrth ddod i wylio Brentford B yn herio tîm dan 21 Bournemouth yn stadiwm y Gtech, gyda'r cefnogwyr a’r teuluoedd eraill.

Mae tîm cyntaf ac ail dîm Brentford wedi’u lleoli’n agos at ei gilydd yn y maes hyfforddi, er mwyn ysbrydoli’r chwaraewyr ifanc. 

Chwarae i’r tîm cyntaf yn y Gtech yw breuddwyd Iwan: "Dwi eisiau bod ar y cae yn fan hyn yn chwarae o flaen y ffans. Pob siawns dwi'n gallu dod i gêm i experienco hwnna, dwi eisiau," meddai.

Image
Iwan Morgan
Iwan Morgan yn chwarae i Brentford yn erbyn Benfica. Llun: Wochit

Mae cyfle i chwaraewyr yr ail dîm hyfforddi gyda'r tîm cyntaf. 

Wrth ymateb i ddatblygiad Iwan ar  y rhaglen, dywedodd Neil Macfarlane, Prif Hyfforddwr Brentford B: “Rydyn ni’n gwthio’r chwaraewyr hyn yn ddi-baid pob dydd ar y cae ymarfer – i fynd ymlaen i chwarae mewn gemau arwyddocaol iawn i ni, felly pan ddaw’r amser, maen nhw’n gallu mynd i berfformio i Thomas [Frank] a’r tîm cyntaf.

"Does gennym ni ddim amheuaeth bod Iwan yn barod o ran mynd yno i hyfforddi. Wedyn fydd hi ond yn fater o gamau bach dros y blynyddoedd nesaf i weld lle fydd e’n mynd."

Traed ar y ddaear 

Yn ddiweddar fe aeth Iwan i chwarae i’r tîm cyntaf mewn gêm gyfeillgar cyn dechrau'r tymor.

Mae teulu Iwan wastad wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi cadw ei draed ar y ddaear. Ei gefnogwr mwyaf oedd ei dad-cu - neu Bampy - a fu farw rai wythnosau cyn i Iwan sicrhau ei gytundeb swyddogol cyntaf:

“Fyse ni wedi gwneud unrhyw beth i Dad weld e,” meddai mam Iwan, “mae hynny’n gallu bod yn drist weithiau, i feddwl bod e wedi methu allan – ond rwy’n siŵr ei fod e’n gwylio.”

Mae Iwan yn cario cadwyn gan ei dad-cu i bobman: "Pob tro ar ôl i fi sgorio, fi'n pwyntio lan am Bampy fi, oherwydd dyna pam fi'n chwarae pel-droed."

Bydd Iwan Morgan: Un Gôl ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a YouTube Hansh o 3 Medi, ac ar S4C am 9.00pm yr un noson.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.