Newyddion S4C

Rhybudd o garchar i ddynes am achosi marwolaeth mam o Bwllheli mewn gwrthdrawiad

02/09/2024

Rhybudd o garchar i ddynes am achosi marwolaeth mam o Bwllheli mewn gwrthdrawiad

Mae barnwr wedi rhybuddio dynes ei bod yn wynebu cyfnod yn y carchar wedi iddi bledio’n euog i achosi marwolaeth mam 28 oed ger y Felinheli y llynedd. 

Bu farw Emma Louise Morris o Bwllheli ar 3 Ebrill 2023 yn dilyn gwrthdrawiad pedwar cerbyd ar ffordd yr A487 rhwng y Felinheli a Chaernarfon. 

Fe wnaeth Jacqueline Mwila, 51 oed o ardal Mount Pleasant yn Abertawe, ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun gan bledio’n euog i achosi marwolaeth Ms Morris drwy yrru'n beryglus. 

Plediodd yn euog hefyd i achosi anaf difrifol i James Walsh drwy yrru’n beryglus.

Gohiriodd y Barnwr Nicola Saffman ddedfryd Ms Mwila er mwyn derbyn adroddiad gan y Gwasanaeth Prawf. 

Ond rhybuddiodd ei bod yn “anochel” y byddai Ms Mwila yn wynebu cyfnod yn y carchar. “Fe ddylech chi baratoi am ddedfryd o’r fath,” meddai. 

Dywedodd Richard Dawson ar ran yr amddiffyniad eu bod yn “cydymdeimlo’n ddiffuant â theulu a ffrindiau” Ms Morris. 

Image
Gwrthdrawiad
Lleoliad y gwrthdrawiad ar ffordd osgoi'r Felinheli

Mewn datganiad adeg y digwyddiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng ceir Audi A3, BMW 1, Peugeot 208 a Skoda Octavia.

Cafodd bachgen pedair oed ei gludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gydag anafiadau oedd yn peryglu ei fywyd ar y pryd, ac fe gafodd dynes cael ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol. 

Cafodd dau berson arall eu cludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol hefyd. 

Mewn teyrnged i Ms Morris, dywedodd ei theulu ei bod hi'n “ffrind hardd a byddai pawb oedd yn ei hadnabod yn gweld eisiau ei gwên.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.