Newyddion S4C

Agor cwest dyn a gafodd ei ladd gan hyd at bedwar ci

02/09/2024
Nicholas Glass

Mae cwest dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn gardd ar ôl ymosodiad gan gŵn wedi ei agor.

Clywodd y cwest yn Birmingham bod Nicholas Glass, 33, wedi marw o ganlyniadau i frathiadau'r cŵn.

Mae’r heddlu yn credu bod pedwar ci yn rhan o’r ymosodiad gan gynnwys dau XL bully.

Cafodd corff Nicholas Glass ei ddarganfod y tu allan i dŷ yn Hereford Close, Rednal yn y ddinas ar 21 Awst.

Cafodd dau o’r cŵn eu dal gan yr heddlu ar y pryd ac fe ddaethon nhw o hyd i’r ddau arall deuddydd wedyn.

Mae profion wedi dangos bod dau ohonynt yn perthyn i frid XL bully a doedd ganddyn nhw ddim tystysgrif oedd yn eu heithrio rhag cael eu gwahardd.

Dywedodd y Crwner James Bennett y byddai'r cwest yn cael ei ohirio nes 13 Ionawr fel bod modd “casglu tystiolaeth berthnasol”.

Mewn teyrnged dywedodd teulu Mr Glass: “Rydyn ni wedi colli mab, brawd ac ewythr cariadus a oedd wedi ei garu gan ei deulu a’i ffrindiau i gyd.

“Roedd yn garedig, yn ofalgar ac yn dosturiol a byddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un. Rydym wedi ein llorio gan ei golled ac rydym i gyd yn ei golli’n fawr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.