'Mae'r sbwriel ymhobman': Galw ar ymwelwyr i barchu 'paradwys' ar Ynys Môn
Sbwriel, poteli plastig a phapur toiled budr – dyma rai o'r eitemau sy’n cael eu gadael mewn "paradwys" arfordirol ar Ynys Môn.
Mae ardal Traeth Gwyn yn Llangoed wedi bod yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr ers amser maith oherwydd ei olygfeydd o Fôr Iwerddon ac Ynys Seiriol.
Ond mae rhinweddau arbennig yr ardal yn cael eu difetha gan rai ymwelwyr sy’n gwrthod mynd â’u sbwriel adref, meddai rheol pobl sy'n byw yno.
Dywedodd pobl Llangoed eu bod wedi gweld nifer cynyddol o ymwelwyr yn dod i'r ardal yn y blynyddoedd diweddar – mae rhai yn aros dros nos mewn cerbydau yn y maes parcio uwchben y traeth, gydag eraill yn gwersylla islaw’r clogwyni, gan adael sbwriel a gweddillion tanau gwyllt.
Mae'r ardal rostirol o amgylch y traeth yn cael ei alw'n Fedw Fawr, ac mae'n rhan o safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Arfordir Gogleddol Penmon sydd o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae arwyddion yn y maes parcio yn dangos yn glir bod gwersylla, cynnau tanau gwyllt a gadael sbwriel wedi eu gwahardd.
Ond mae nifer o bobl leol yn dweud bod yr arwyddion yn cael eu hanwybyddu, gyda phroblemau'n gwaethygu ar Draeth Gwyn.
‘Ffiaidd’
Yn ôl yr arlunydd lleol, Mark Russell, mae cynnydd yn nifer y bobl sy’n gwersylla yn yr ardal.
Dywedodd fod rhai ymwelwyr yn gadael bob math o sbwriel yn y cloddiau, gan gynnwys cwpanau coffi, poteli dŵr plastig a chaniau cwrw.
Mewn rhai ardaloedd, mae llwyni hefyd yn cael eu defnyddio fel toiledau, gyda phapur budr yn cael ei adael o gwmpas y lle.
"Mae'r sbwriel wedi bod yn gwaethygu wrth i fwy o bobl ddod yma," meddai Mr Russell.
"Fe ddechreuodd y cyfan yn dilyn y cyfnod clo. Wrth i bobl weld llefydd ar eu cyfrifiaduron, daeth mwy o bobl i glywed am yr ardal.
"Mae’r sbwriel ym mhobman – yn y llwyni, yn y coed, ac rydych chi’n gweld llwyth o bapur toiled.
"Mae rhai yn aros dros nos yn y maes parcio, tra bod mwy o bobl yn gwersylla ac yn cynnau tanau gwyllt ac yn gadael sbwriel.
"Mae angen gwneud rhywbeth yn ei gylch."
Dywedodd un o drigolion Llangoed, a oedd yn dymuno bod yn ddienw, ei fod yn pryderu am yr effaith ar fywyd gwyllt.
"Rydych chi’n gweld poteli diodydd plastig a sbwriel yn cael ei adael yma ac acw yn y llwyni," meddai.
"Maen nhw'n ei wthio i ochrau'r cloddiau, ac yn y glaswellt ger y maes parcio – dw i'n poeni ei fod yn amharu ar fywyd gwyllt.
"Mae rhai ardaloedd sydd allan o'r ffordd yn cael eu defnyddio fel toiledau, maen nhw'n gadael papur a hancesi papur wedi'u gwasgaru o gwmpas, mae'n ffiaidd.
"Mae Traeth Gwyn yn ardal mor brydferth, ond mae rhai pobl ddifeddwl yn meddwl ei bod yn iawn i'w ddifetha."
'Angen parchu cymunedau'
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: "Mae Fedw Fawr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a ddynodwyd gan CNC, ac rydym yn annog pawb i fod yn ymwelwyr cyfrifol.
"Mae ein timau’n gweithio’n hynod o galed i ofalu am yr ardal ac yn cynnal sesiynau codi sbwriel rheolaidd.
"Rydym yn gofyn i ymwelwyr ein helpu i warchod y darn arbennig hwn o arfordir ar gyfer pobl a bywyd gwyllt drwy fynd â sbwriel adref, gan nad oes biniau cyhoeddus ar gael. Glanhewch ar ôl eich cŵn a chadwch nhw dan reolaeth agos o amgylch da byw.
"Rydym yn gofyn i ymwelwyr barchu cefn gwlad. Ni chaniateir gwersylla ar y safle hwn.
"Os yw lleoedd parcio’n llawn, chwiliwch am leoliadau eraill priodol. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i warchod ein hardaloedd hardd a pharchu ein cymunedau lleol."